SCARLETS V LONDON IRISH

Armed Forces Day: Jan 28th @ 6:30pm
Bookmark and Share
Treftadaeth
Gyda 129 o flynyddoedd o hanes, fe fydd Parc y Strade yn byw am byth yn y straeon gwerin fel un o feysydd rygbi enwocaf y byd. Dyma i chi gipolwg ar ffeithiau a ffigyrau enwog y Strade.

Gêm gyntaf ym Mharc y Strade -Sadwrn 29 Tachwedd, 1879: collodd Llanelli o dwy gais id dim yn erbyn Castell Nedd yn Nghwpan Her Cymru.

Gêm gyntaf ar safle presennol Parc y Strade - Sadwrn 15 Hydref, 1904: Llanelli 0 Abertawe 11.

Chwaraewyd - 2578 (78 fel Scarlets).
Enillwyd - 2028 (55 fel Scarlets).
Gemau Cyfartal - 162 (2 fel Scarlets).
Collwyd - 386 (21 fel Scarlets).
Cefnwyd ar - 2 (0 fel Scarlets).
Nifer mwyaf o geisiau mewn gêm - 6: Alby Davies v Sir Benfro, Sad 1 Mawrth, 1902; Ieuan Evans v Maesteg, Sad 24 Hyd, 1992.

Prif sgorwyr ceisiau

Andy Hill 312, Ray Williams 213, Ieuan Evans 193, Wayne Proctor 182, JJ Williams 159, Ernie Finch 137, Phil Bennett 137, Elvet Jones 129, Garan Evans 125, Martin Gravelle 123, Albert Jenkins 121, Carwyn Davies 121, Ray Gravell 120, Ivor Jones 120, Phil Lewis 116, Nigel Davies 115, Neil Boobyer 113, Peter Hopkins 108, David Nicholas 108, Simon Davies 101, Dai John 100.

Tymorhau heb golli gêm

1880-81 Chwaraewyd 4, ennill 3 gemau cyfartal 1; 1888-89 Ch 25, E 22 GC 3; 1896-97 Ch 18, E 16 GC 2; 1897-98 Ch 22 E 17 GC 5; 1909-10 Ch 18, E 15, GC 3; 1925-26 Ch 23 E 23; 1933-34 Ch 23 E 23; 1939-40 Ch 1 E 1 (death y tymor i ben oherwydd yr Ail Ryfel Byd).

GEMAU RHYNGWLADOL AR BARC Y STRADE

Cymru - Chwaraewyd 5 Enillwyd 4 Gemau Cyfartal 1: Sadwrn 8 Ionawr, 1887 Cymru 0-0 Lloegr; Sadwrn 7 Mawrth, 1891 Cymru 6-4 Iwerddon; Sadwrn 3 Mawrth 1893, Cymru 2 (ceisiau) -0 Iwerddon; Sadwrn 7 Ionawr, 1998 Cymru 23-20 Yr Eidal; Sadwrn 21 Tachwedd 1998, Cymru 43-30 Yr Ariannin. Gemau Cwpan y Byd - Gwener 4 Hydref, 1991 Yr Ariannin 19-32 Awstralia; Sul 10 Hydref, 1999 Yr Ariannin 32-16 Samoa

FFEITHIAU A DIGWYDDIADAU COFIADWY ERAILL PARC Y STRADE

Dydd Llun y Pasg 17 Ebrill, 1911 - Chwaraeodd Llanelli dwy gêm ar yr un diwrnod, buddugoliaethau o 6 pwynt i 5 yn erbyn Northampton a 6-3 yn erbyn Caerlyr.
Iau 19 Rhagfyr, 1912 - ganwyd Gilbert Davies, y chwaraewr hynaf sy'n dal i fod yn fyw.
Chwaraeon eraill sydd wedi cymryd lle ar y cae - Pêl droed, Pêl-wthio, pêl droed elusennol (gan ddefnyddio pêl rygbi), pêl droed menywod, rygbi'r gynghrair.
Mawrth 31 Hydref, 1972 - Cymanfa Ganu cyn buddugolaieth Llanelli yn erbyn Seland Newydd.
Gwener 16 Tachwedd, 2007 - Cynhaliwyd angladd un o hoff feibion Strade, Ray Gravell.

Cynadleddau & Digwyddiadau

Conference & Events
Gwnewch ymholiad

Pecynnau Lletygarwch

Scarlets Hospitality
Pecynnau Lletygarwch

Siop y Scarlets

Scarlets Shop
Ewch i Siopa!
© 2012 © 2009 Y Scarlets. Data Ystadegol © Sportstat Nodyn Cyfreithiol Dosbarthwyd gan Sotic Pwerir gan RedDot Web Content Management