SCARLETS V BENETTON TREVISO

Feb 23rd @ 7:35pm
Bookmark and Share
Treftadaeth

Adeiladu ar draddodiad gwych

Parc y Strade

Llanelli yw un o'r trefi rygbi mwyaf enwog yn y byd. Mae'n gartref i dîm rygbi proffesiynol y Scarlets sy'n cystadlu ar y lefel uchaf o rygbi Ewropeaidd.
Datblygwyd y Scarlets o dîm gwreiddiol Clwb Rygbi Llanelli pan ffurfiwyd adeiladwaith newydd i rygbi yng Nghymru. Parhau i ffynu wnaeth Llanelli fel tîm rhannol-broffesiynol. Chwaraeoedd y ddau dîm ym Mharc y Strade tan Hydref 2008. Gwelwyd y ddau dîm yn ymgartrefu yn safle godidog Parc y Scarlets ym mis Tachwedd yr un flwyddyn.

Mae'r tîm wedi datblygu yn syfrdanol o'u gwreiddiau cynnar, pan welwyd y gêm gyntaf yn cael ei chwarae ym 1876 ym Mharc y Bobl. Chwaraeodd y tîm cartref mewn glas. Fodd bynnag, cred rhai fod y clwb wedi ei ffurfio cwpwl o flynyddoedd ynghynt. O ganlyniad i hyn gwelwyd aelodau, chwaraewyr a chefnogwyr yn dathlu canmlwyddiant y clwb ym 1972.

Gwisgwyd y crys Scarlet enwog ym 1884 yn erbyn tîm Gwyddelig oedd ar y ffordd adref ar ôl chwarae yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd. Mae'r crys yn y lliw nodweddiadol hwn wedi ei wisgo byth er hynny.

Daeth Llanelli i amlygrwydd am y tro cyntaf ar ôl curo Awstralia ym 1908. Er hynny meant wedi llwyddo i guro nifer o dimau rhyngwladol, gan gynnwys y Crysau Duon ym 1972 a'r pencampwyr byd ugain mlynedd yn ddiweddarach.

Mae Llanelli yn parhau fel goreuon y gwpan yng Nghymru, wedi ennill y gwpan 12 gwaith mewn 17 gêm derfynnol. Yn nhymor 1992-3 daeth llwyddiant wrth enill tlws Tîm Gorau Prydain ar ôl ennill y gynghrair, y gwpan a churo'r Wallabies.

Oddi ar y newid i broffesiynoldeb mae'r Scarlets wedi llwyddo i gyrraedd y brig yn y Gynghrair Geltaidd ac wedi cyrraedd y rownd cyn derfynol yng Nghwpan Heineken.
Ond nid buddugoliaethau enwog sydd wedi rhoi'r enwogrwydd a'r traddodiad rygbi mawr i Lanelli - mae'r dref a'r rhanbarth wedi cynhyrchu rhestr hir o chwaraewyr talentog.

Pobl fel Albert Jenkins yn y 1900au cynnar i enwogion megis Ken Jones, Delmw Thomas, Phil Bennett, Derek Quinnell a Ray Gravell. Yn fwy diweddar rydym wedi gweld arwyr fel Ieuan Evans a Scott Quinnell. Mae 170 o fechgyn Llanelli wedi chwarae dros Gymru a 21 wedi cynrychioli'r Llewod - yn ogystal â hyfforddwyr byd enwog fel Carwyn James (Seland Newydd 1971).

Mae'n stori llwyddiannus tu hwnt ym myd chwaraeon.

Cynadleddau & Digwyddiadau

Conference & Events
Gwnewch ymholiad

Pecynnau Lletygarwch

Scarlets Hospitality
Pecynnau Lletygarwch

Siop y Scarlets

Scarlets Shop
Ewch i Siopa!
© 2012 © 2009 Y Scarlets. Data Ystadegol © Sportstat Nodyn Cyfreithiol Dosbarthwyd gan Sotic Pwerir gan RedDot Web Content Management