Bookmark and Share
Treftadaeth
Parc y Strade

Ein Hanes

Hunaniaeth anhygoel – parchu ein dyfodol

Llanelli yw un o’r trefi rygbi enwocaf yn y byd. Mae’n gartref i glwb sydd a’r gefnogaeth mwyaf ingol yn y byd, y Scarlets – sydd a hunaniaeth na welir mohono yn unman arall.

Chwaraewyd gêm cyntaf Llanelli ym Mharc y Bobl ym 1876. Chwaraeodd y tîm cartref mewn glas. Fodd bynnag, yn ôl rhai, ffurfiwyd y clwb sawl blwyddyn cyn hynny. Oherwydd hyn y dathlwyd canmlwyddiant Llanelli ym 1972.

Roedd tymor 1904-5 yn un hanesyddol oherwydd dyma’r flwyddyn y symudodd y clwb i’r cae “newydd” ar y Strade, a fuodd yn gartref i’r Scarlets hyd mis Hydref 2008 pan symudodd y clwb i’w stadiwm newydd Parc y Scarlets. Chwaraewyd gêm gyntaf y stadiwm ar 15/10/1904 pan gollodd Llanelli yn erbyn Caerdydd. Gwisgwyd y crys Scarlet enwog am y tro cyntaf ym 1884 yn erbyn tîm Gwyddelig oedd gwneud eu ffordd yn ôl i’r ynys Werdd ar ôl wynebu Cymru yng Nghaerdydd. Scarlet bu’r lliw byth oddi ar hynny a mabwysiadwyd y llysenw Scarlets; rhoddwyd yr enw i’r rhanbarth newydd ym mis Medi 2008 a gollwng Llanelli i adlewyrchu daearyddiaeth eang y rhanbarth.

Daeth Llanelli yn enwog am y tro cyntaf ym 1908 ar ôl i’r clwb flasu buddugoliaeth yn erbyn tîm teithiol o Awstralia. Oddi ar hynny mae’r clwb wedi llwyddo i faeddu nifer o dimau rhyngwladol, gan gynnwys y Crysau Duon ym 1972 a’r pencampwyr byd Awstralia o 13 pwynt i 9 ugain mlynedd yn ddiweddarach ym 1992. Parhaodd Llanelli i fod yn Frenhinoedd y Cwpan yng Nghymru, ar ôl ennill 12 allan o 17 gêm terfynol. Ym nhymor 1992-93 enillwyd y teitl o Dîm Gorau Prydain ar ôl ennill y gynghrair, y gwpan a maeddu Awstralia.

Ers i’r gêm fynd yn broffesiynol mae’r Scarlets wedi bod yn bencampwyr y Gynghrair Geltaidd ac wedi cyrraedd rownd cyn derfynol twrnament gorau Ewrop, Cwpan Heineken. Aeth y Scarlets i rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Heineken yn 2003-4 a cyrraedd brig y Gynghrair Geltaidd pedwar pwynt o flaen Ulster.
 
Yn 2004-5, fe gyrhaeddodd y Scarlets rownd derfynol y Cwpan Celtaidd ond colli oedd ei hanes o 26 pwynt i 17 yn erbyn Munster. Yn nhymor 2005-6, roedd y Scarlets yn llwyddiannus yng Nghwpan Powergen. Cafwyd buddugoliaeth yn erbyn Caerfaddon yn y rownd cyn derfynol, ar ôl gorffen ar frig ei grwp, gan wynebu’r Wasps yn y rownd derfynol a cholli o 26 pwynt i 10. Buddugolaieth arall a welwyd yn rownd y cwarteri yn erbyn Munster 24-15 cyn colli yn y rownd cyn derfynol oddi cartref yn Nghaerlyr o 33-17.

Yng nghwpan Heineken yn 2006-7, enillodd y Scarlets y dair rownd agoriadol cyn mynd ymlaen i un o’r buddugoliaethau gorau yn hanes y rhanbarth yn erbyn Toulouse oddi cartref o 41 pwynt i 34.
Ffurfiwyd rhanbarth y Scarlets ym mis Gorffennaf 2003 o Glwb Rygbi Llanelli pan ail-ffurfiwyd rygbi elit gan URC.

Mae’r Scarlets yn swyddogol yn cynrychioli Gorllewin a Gogledd Cymru. Nid y buddugolaiethau hanesyddol yn unig sydd wedi ffurfio Llanelli fel tref rygbi anhygoel – mae’r dref a’r rhanbarth wedi datblygu rhestr hirfaeth o dalent a chwaraewyr byd enwog. Yn eu mysg y mae Albert Jenkins ar ddechrau’r 1900au, i arwyr megis Ken Jones, Delme Thomas, Phil Bennett, Derek Quinnell a Ray Gravell. Yn fwy diweddar arwyr fel Ieuan Evans, Jonathan Davies a Scott Quinnell.  Ac erbyn heddiw rhai o chwaraewyr gorau’r byd fel Stephen Jones.  Mae’r clwb wedi cynhyrchu cyfanswm o 178 o chwaraewyr rhyngwladol a 24 Llewod Prydeinig – yn ogystal â hyfforddwyr hanesyddol fel Carwyn James (Llewod, Seland Newydd 1971).

Ym mis Tachwedd 2007, Parc y Strade oedd lleoliad angladd un o feibion mwyaf enwog y clwb, Ray Gravell. Chwaraewyd y gêm olaf erioed ar Barc y Strade ar Hydref 24eg 2008 yn erbyn Caerfaddon. Enillodd y Scarlets o 27 pwynt i 0. Roedd Strade yn gartref i Glwb Rygbi Llanelli a’r Scarlets am bron i 130 o flynyddoedd. Yn y cyfnod hwnnw chwaraewyd 2577 o gemau ar y cae, gan ennill 2029, 162 o gemau cyfartal, colli 385, sy’n cynrychioli cyfradd llwyddiant o 79%.

Symudodd y Scarlets o Barc y Strade i’w cartref £23m a 15,000 sedd newydd ym mis Tachwedd 2008. Enillwyd y gêm agoriadol rhwng Llanelli a Chaerdydd gan y tîm cartref ar y 15ed o Dachwedd 2008. Rhys Priestland oedd y cyntaf i sgorio ar y cae newydd, a sgoriodd 22 o bwyntiau yn y gêm. Y canolwr ifanc Jonathan Davies oedd y cyntaf i gael cais yno. Gêm yng Nghynghrair Magners yn erbyn Munster ar yr 28ain o Dachwedd oedd gêm agoriadol y Scarlet sym Mharc y Scarlets. Colli oedd hanes y Scarlets o 18 pwynt i 16. Ar y 12fed o Ragfyr death Cwpan Heineken i’r stadiwm am y tro cyntaf pan gafwyd gêm gyfartal yn erbyn Ulster.

Ar 31ain o Ionawr 2009 cynhaliwyd y seremoni agoriadol gan Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan cyn gêm y Scarlets yn erbyn y Barbariaid. Y Scarlets oedd yn fuddugol ar yr achlysur yma o 40-24.

Gyda gwreiddiau rygbi dwfn a rhai o’r cefnogwyr mwyaf cefnogol ac angerddol yn y byd, mae stori’r Scarlets a Llanelli yn un o lwyddiant, balchder ac angerdd ym myd chwaraeon.      

Cynadleddau & Digwyddiadau

Conference & Events
Gwnewch ymholiad

Pecynnau Lletygarwch

Scarlets Hospitality
Pecynnau Lletygarwch

Siop y Scarlets

Scarlets Shop
Ewch i Siopa!
© 2009 Y Scarlets. Data Ystadegol © Sportstat Nodyn Cyfreithiol Dosbarthwyd gan Sotic Pwerir gan RedDot Web Content Management