Yn dilyn galwad uchel am nwyddau'r Scarlets y tymor hwn, rydym yn chwilio am staff tymhorol i weithio fel cynorthwywyr manwerthu yn ein stondinau manwerthu.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol, ac mae profiad manwerthu yn hanfodol yn ogystal â’r ymrwymiad o gynnig profiad gwych i gwsmeriaid wrth iddynt ymweld â Pharc y Scarlets.
Yn ogystal a'r staff tymhorol mae gennym safle rhan amser parhaol i'w lenwi hefyd, 25 awr yr wythnos.
Os oes gennych ddiddordeb anfonwch CV cyfredol yn amlinellu eich profiad i Victoria@scarlets.co.uk neu Victoria Anderson, Rheolwr Manwerthu, Parc y Scarlets, Parc Pemberton, Llanelli, SA14 9UZ.