Y twrnament oedd y cyntaf i’w gynnal ers penderfyniad POR i gynnwys Rygbi Saith Bob Ochr yn rhaglen yr Olympics.
Roedd y twrnament yn dathlu 40 mlynedd eleni.
Mae Lee, aelod o’r academi o Rydaman, wedi cael tymor arbennig yn chwarae rygbi ysgolion ac yn ei flwyddyn gyntaf yng Ngholeg Sir Gâr ac mae wedi ei gynnwys yn y garfan h?n.
Cyfleoedd cyfyng a gafodd Lee yn y rowndiau cynnar yn y gystadleuaeth ond fe lwyddodd i sgorio ceisiau yn y mwyafrif o’r gemau y chwaraeodd rhan ynddynt. Ar ôl ymgartrefu i awyrgylch rygbi h?n fe ddatblygodd ei hyder ac mae wedi mynd o nerth i nerth byth ers hynny.











