Gyda buddugoliaeth arall tu cefn iddynt, mae’r Scarlets ar frig ei grwp yng Nghwpan LV= gyda phump pwynt yn fwy na’i gwrthwynebwyr agosa’.
Dywedodd y Prif Hyfforddwr Nigel Davies ei fod yn hapus iawn gyda’r ffordd yr ymatebodd y chwaraewyr ifanc a’r fuddugoliaeth 18-13. Aeth ymlaen i ddweud hefyd bod buddsoddi yn y chwaraewyr ifanc a rhoi digon o gyfle iddynt chwarae yn rhai o’r gemau mawr yn awr yn talu ar ei ganfed.
Dywedodd Davies: “Mae’r mis neu ddau diwetha’ wedi body n gyfnod anhygoel i nifer o’r chwaraewyr ifanc ac mae’n braf gweld nhw’n magu hyder. I ni wedi buddsoddi yn y grwp yma dros y deunaw mis diwetha’, ac er ein bod wedi profi cyfnodau anodd, i ni erbyn hyn yn dechrau gweld ffrwyth ein llafur.
“Yn yr wythnosau diwetha’ mae’r chwaraewyr wedi wynebu rhai o dimau gorau Ewrop ac rydym wedi llwyddo i sicrhau buddugoliaethau pwysig. Fe fydd y chwaraewyr yn elwa lot o hynny.
“Mae Parc Adams yn le anodd i deithio iddo heb son am gael unrhyw lwyddiant yno, felly rydym yn falch iawn o’r fuddugoliaeth yma.
“Rydym wedi cwblhau tri chwarter o’r gwaith erbyn hyn, mae’n rhaid i ni orffen hwnnw nawr gyda perfformiad a chanlyniad yn erbyn y Gleision prynhawn Sadwrn nesa’. Mae’n gallu bod yn anoddach ar adegau i chwarae yn erbyn gwrthwynebwyr adnabyddus, ond mae pob cyfle gennym ac mae’n rhaid i ni sicrhau’r safle gorau posib i ni.”
Aeth Davies ymlaen i glodfori seren y gêm, Rhys Priestland, am ei berfformiad ar ôl iddo sicrhau holl bwyntiau’r Scarlets gyda chwech gôl gosb.
Dywedodd: “Mae Rhys yn chwaraewr o fri, mae e yr un mor dda ag unrhyw un arall yn nhermau ei sgiliau a’i gicio tactegol. I ni’n ymwybodol iawn o’i allu ac yn gwybod ei fod yn gallu cicio ac fe lwyddodd i brofi hynny heddi’.
“Wrth i’r ochr yna o’i chwarae ddatblygu fe fydd Rhys yn y rhes ar gyfer anrhydeddau rhyngwladol.”
Dywedodd y g?r ifanc bod y tîm yn hynod o falch o’r canlyniad. Mewn cyfweliad ar ddiwedd y gêm dywedodd Rhys Priestland: “Roedd yn fuddugoliaeth gwych, roed yn siomedig bod y Wasps wedi sicrhau dau gais rhwydd yn yr hanner cynta’ ond fe ddangosodd y tîm ein bod ni’n gallu amddiffyn yn yr ail hanner.
“Wasps chwaraeodd y rygbi gorau ond er dweud hynny roeddem yn bles iawn i sicrhau’r fuddugoliaeth.
“Mae’n dda hefyd ein bod wedi ennill pedwar gêm yn olynol, mae’r garfan yn gwella ac mae yna lot o chwaraewyr ifanc yn gwneud yn dda iawn, ac mae’n rhaid bod hynny’n beth da i’r rhanbarth.”
Fe aeth ymlaen i ddweud ei fod yn gweithio ar ei gicio o hyd: “Rwy’n gweithio ar fy nghicio yn gyson ac rwy’n gobeithio y gallaf barhau a’r safon. Rwy’n treulio lot o amser ar fy nghicio, rwy’n cael cefnogaeth gan Neil Jenkins a Steve (Jones) – dyw e ddim yn giciwr drwg!”
Ychwanegodd y chwaraewr rhyngwladol Matthew Rees: “Roeddem yn lwcus i gael y tri phwynt ychwanegol hwnnw ar ddiwedd y gêm, ond roedd yn fuddugoliaeth arbennig i ni fan hyn ac i ni mewn safle da yn y grwp.
“Nid yw’r canlyniadau wedi mynd fel y byddem wedi gobeithio yng Nghynghrair Magners ond i ni wedi llwyddo i gael buddugoliaethau da yn ddiweddar gan gynnwys y perfformiad yn Brive penwythnos diwetha’ a hwn heddi’. Rhaid i ni obeithio nawr y gallwn barhau a’r safon a chloi’r tymor ar nodyn positif.”
Wrth son am ei berfformiad ei hun cyn gemau’r Chwe Gwlad dywedodd Rees: “Aeth yn iawn ar y cae, mae’n gret i fod yn ôl ac rwy’n edrych ‘mlaen i’r bencampwriaeth prynhawn Sadwrn nesa’.”











