Fe fydd y digwyddiad ar nos Sadwrn 27 Chwefror am 7pm – ac yn ymgyrch ‘Dwyrain v Gorllewin’ – diwrnod ar ôl i Gymru wynebu Ffrainc yn Stadiwm y Mileniwm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Wythnos yma, mae Mark wedi lansio cystadleuaeth ar ran wncwl ei wraig, a chefnogwr brwd y Scarlets, Terry Ford sydd bellach yn byw yng Nghaliffornia. Fel un sydd yn falch iawn o’i gefnogaeth i’r Scarlets roedd yn awyddus iawn i fod yn rhan o’r noson ond yn methu bod yno, felly mae e wedi cyfrannu’r tocynnau i’r gystadleuaeth er mwyn i gefnogwyr eraill y Scarlets fwynhau’r noson.
Ynghlwm yn y cwis y bydd Simon Easterby, Dwayne Peel a Mark Jones yn erbyn Martyn Williams, Tom Shanklin, Andy Powell a gwesteion arbennig eraill mewn noson llawn hwyl a chynnwrf. Yng ngofal y noson bydd Frances Donovan oddi ar y teledu a Rupert Moon o’r Scarlets.
Fe fydd y noson yn cael ei gynnal yn Lolfa Quinnell ym Mharc y Scarlets.
Dywedodd Mark Jones: “Roedd Terry mor awyddus i weld y tocynnau yma yn nwylo cefnogwr y Scarlets fe benderfynom ni gynnal cystadleuaeth, dyw e methu bod yn bresennol am ei fod yn teithio gyda’i waith.
“Rwyf wedi derbyn cefnogaeth arbennig yn barod ar gyfer fy mlwyddyn tysteb ac yn edrych ymlaen at y noson fawr nesa’ ym mis Chwefror. Mae’n agored i bawb ac fe fydd yn noson llawn hwyl a sbri gyda rhai o enwau mawr rygbi Cymru.
“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r chwaraewyr sydd wedi fy nghefnogi – fe ddylai fod yn noson a hanner, yn enwedig gyda’r cwis chwaraeon, i ni gyd yn gwybod mai ‘West is Best’ ac felly i ni’n eitha’ hyderus yn barod!”
I gymryd rhan yn y gystadleuaeth anfonwch eich ateb (A, B neu C) i’r ebost canlynol markjones@scarlets.co.uk neu anfonwch ar gerdyn post i Cystadleuaeth Mark Jones, Parc y Scarlets, Parc Pemberton, Llanelli, Sir Gâr, SA14 9UZ. Cofiwch i ychwanegu’ch enw, cyfeiriad, ebost a rhif ffôn! Dyddiad cau Gwener 12ed Chwefror
CWESTIWN: “Pa chwaraewr Scarlets/Llanelli sydd wedi sgori’r mwya’ o bwyntiau dros Gymru?”
a. Stephen Jones b. Scott Quinnell c. Ieuan Evans
Am wybodaeth pellach am ddigwyddiadau Tysteb Mark Jones cysylltwch a Under The Posts Cyf ar 08456 800906 neu ebostiwch sales@underthepostsltd.co.uk. Gwefan blwyddyn tysteb Mark Jones www.markjonesbenefit.co.uk
Mae Jones, 29, yn dod o Lanfair ym Muallt a chwaraeodd ei gêm gynta’ dros y Scarlets yn erbyn y Saracens ar 28 Awst 1998. Mae wedi chwarae 160 o gemau dros Lanelli a’r Scarlets ac wedi sgori 85 o geisiau. Mae wedi ennill 47 o gapiau dros Gymru ac wedi sgori 13 o geisiau. Roedd yn rhan o dîm y Gamp Lawn yn 2008.




