Ar ôl i’r Scarlets golli i dîm cryf a phenderfynol y Gleision dydd Sadwrn ar Barc yS carlets roedd yn rhaid aros, a gobeithio y byddai’r Quinsy n llwyddiannus neu yn llwyddo i atal Caerloyw rhag cael pwynt bonws.
Er i’r Quins fod ar y blaen trwy gydol y gêm, daeth Caerloyw yn ôl yn gryf yn y cwarter ola’ gan ddangos pendantrwydd a dalodd ar ei ganfed wrth i’r cais a’r trosiad sicrhau ei lle yn y rownd terfynol.
Roedd gan y Scarlets a Chaerloyw 11 pwynt yr un ond Caerloyw aeth ‘mlaen i’r rownd nesa’ ar y nifer o geisiau; 11 Caerloyw yn erbyn 9 y Scarlets.
Dywedodd y Prif Weithredwr, Paul Sergeant: “Mae’n amlwg yn siomedig iawn i bawb - staff, chwaraewyr, hyfforddwyr a’n cefnogwyr ar ôl i ni gael dechrau mor gadarnhaol yng Nghwpan LV= gyda grwp o chwaraewyr ifanc a fydd wedi dysgu lot o’r profiad.
“Mae’n rhaid i ni edrych ‘mlaen i weddill y tymor fel rhanbarth ac fe fyddwn ni’n canolbwyntio ar ein gêm yn rownd y cwarteri yng nghystadleuaeth Cwpan Her Amlin ym mis Ebrill yn Toulon, yn ogystal a gwella’n safle yng Nghynghrair Magners.
“Hoffem ddiolch unwaith eto i’n cefnogwyr oedd mor lleisiol ar Barc y Scarlets ddoe.”
Dywedodd y Prif Hyfforddwr Nigel Davies: “Mae wedi bod yn benwythnos siomedig iawn i ni ar ôl dechreuad mor dda yn y gystadleuaeth yn enwedig oddi cartre’. Collwyd gafael ar gyfle euraidd.
“Ond roeddem yn ymwybodol bod angen i ni sicrhau dau fuddugoliaeth yn y ddau gêm ola’ er mwyn sicrhau ein lle. Nid dibynnu ar ganlyniadau eraill yw’r ffordd cywir i’w wneud.
“Roeddem yn siomedig gyda’n perfformiad yn yr ail hanner ddoe, roedd y Gleision yn fygythiad o’r cychwyn cynta’ gyda’r nifer o chwaraewyr talentog oedd ganddynt ar y cae. Roeddem yn ymwybodol iawn yn ystod hanner amser y byddai’r Gleision yn awyddus iawn i ddod yn ôl yn gryf yn yr ail hanner.
“Fe fydd yn rhaid i ni ddysgu gwersi o hyn, ond mae’r bois yn datblygu o hyd ac mae hynny’n beth positif.
“Yn anffodus mae hyn wedi digwydd, fe fydd y rhaid i ni symud ‘mlaen a chanolbwyntio ar yr hyn sydd gennym ar ôl y tymor hwn yng Nghynghrair Magners a Chwpan Her Amlin.”











