Ac ar ben hyn, bu mewn brwydr bersonnol. Mewn gem i Gymru yn erbyn Ffrainc, chwalwyd ei choes gan dacl cryf.
Dywedwyd wrthi na fyddai’n gallu rhedeg eto, heb son am gystadlu ar unrhyw lefel. Ond am dros flwyddyn, fe frwydrodd drwy llawdriniaethau a thriniaethau amryiol i gymryd ei lle yn ol ar y cae rygbi. Ac i goroni’r cyfan Non giciodd y gic rhoddodd y fuddugoliaeth gynta i dim merched Cymru yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad llynedd – wedi 22 mlynedd o fethu curo Lloegr unwaith! Ennillodd tim merched Cymru y Goron Driphlyg llynedd hefyd.
Ei phrofiad cynta o rygbi oeddmynd gyda’i thad i weld Llanelli yn y Strade. Mae’n cofio sefyll yn ferch ifanc iawn ar y Tanner Bank. Ei arwr cynta oedd yr unigrhyw Ieuan Evans.Mae’n dweudmai un foment chwaraeon sy’n aros yn ei chof o hyd yw gweld y Scarlets yn curo Awstralia – a hefyd y fforddwnaeth Ieuan a RupertMoon ddathlu!
Daeth cysylltiad arall gyda’r Scarlets yn hwyrach yn ei bywyd pan roedd yn trefnu gem dysteb Rupert Moon yn 2000. Roedd
gofyn cysylltu gyda cyn chwaraewyr y Scarlets er mwyn creu tim i chwarae yn erbyn y tim ar y pryd. Trodd ffonio’r cyn seren o’r wythdegau a’r nawdegau, Mark Perego ermwyn gofyn iddo chwarae mewn gem rygbi, yn rhywbeth dipyn mwy personnol.
A heddi,mae’r ddau yn dal yn ‘eitem’!
Yn yr haf, mae Cwpan y Byd i rygbi menywod. Mae tasg annodd iawn yn wynebu Cymru.Mae nhwyn yr un grwp a Seland Newydd, De Affrica a Awstralia!
Yn ogystal a gwneud yn dda yn y gystadleuaeth ma gan Non un uchelgais arall ar gyfer Cwpan y Byd. Ar hyn o bryd mae wedi sgorio 62 o geisiau rhyngwladol. “ Dim ond 4 cais arall a byddai wedi pasio yr anhygoel David Campese!” meddai’n ddigon balch.
Mae pawb ym Mharc y Scarlets yn dymuno’r gorau i Non a gweddill merched Cymru wrth iddyn nhw frwydro yn erbyn y Saeson heddi.




