Dydd Sul, Chwefror yr 28ain mae Rhodri Williams a Mari Lovgreen yn eich gwahodd i ddod a phethau hen neu newydd nad ydych eu heisiau bellach i Barc y Scarlets erbyn 1030yb a rhoi’r cyfle i chi eu Cyfnewid am bethau yr hoffech eu cael. Cyfle i Daro Bargen a chael gwerth am werth heb werthu na phrynu dim!
Does angen i chi wneud dim mwy na chofrestru eich eitem neu eitemau a chael Rhif Personol. Yna rhoi eich rhif ar yr eitem a mynd ati i chwilio drwy eitemau pobol eraill i weld beth hoffech gael. Pan welwch chi rywbeth rych chi’n ffansio, yna nodwch y rhif a dewch i’r Cylch Cyfnewid yng nghanol y neuadd at Rhodri a Mari ac fe wnawn nhw alw ar y perchennog i ddod i’r Cylch. Y chi a chi fydd wedyn yn Taro Bargen i gael beth rych chi moyn.
Does yna bron ddim na allwch ei Gyfnewid; dillad, ffilmiau, llenni, llestri hen a newydd, esgidiau, torri gwallt am baentio stafell, gemau bwrdd neu gemau cyfrifiadur. Os am fwy o wybodaeth ewch i Wefan Cyfnewid ar www.S4C.co.uk/cyfnewid neu cysylltwch a Thîm Cyfnewid ar 029 20590117 neu heledd.angharad@boomerang.co.uk
Y Scarlets, Parc Pemberton, Llanelli, Sir Gâr SA14 9UZ
Ffôn: 01554 783900 comments@scarlets.co.uk




