Mae’r chwaraewr 19 mlwydd oed, o Gastellnewydd Emlyn, cartre’ Josh Turnbull, yn cael yr un sylw ag oedd Jon Davies pan yn ifanc.
Dywedodd Kevin George, Pennaeth Academi’r Scarlets: “Mae Scott wedi chwarae rygbi da i Dim Cymru dan 20. Mae e wedi bod yn un o’r perfformwyr gorau yn y tim hyd yn hyn gan sgori cais arbennig yn erbyn Ffrainc prynhawn Gwener.
“Mae e wedi bod yn rhan o Academi’r Scarlets ers yn 15 oed ac mae wedi bod yn fyfyriwr yng Ngholeg Sir Gâr dros y dair blynedd diwethaf. Mae e’n astudio Gwyddorau Chwaraeon tra’n rhan o’r Academi.
“Mae e’n datblygu’n dda, mae ganddo gryfder a chyflymder da ac mae wedi llwyddo i brofi ei werth ar y llwyfan rhyngwladol. Rydym ni’n edrych ‘mlaen i’w weld yn datblygu i’r lefel nesa’.”
Dywedodd Scott Williams: “Rwyf wedi mwynhau pob eiliad o’r profiad gyda Cymru dan 20. Rydym wedi bod yn hyfforddi gyda’r tim hyn yng Ngwesty’r Bro, sydd yn eu hun yn brofiad gwych.
“Rwy’n mwynhau fy rygbi yn fawr ar hyn o bryd ac yn mawr obeithio y byddaf yn parhau i ddatblygu.
“Roedd y gêm yn erbyn Ffrainc yn un da, nid oedd neb wedi disgwyl i ni ennill gyda gymaint o fantais ond fe wnaethon yn dda i fynd ar y blaen o 12 – 3 yn yr hanner cynta’. Roedd yn ymdrech arbennig gan y tim i gyd.”
Dywedodd Scott mae ei nod yw i barhau gyda’r Scarlets a gobeithio sicrhau contract datblygu gyda’r rhanbarth tymor nesa’.
Fe lwyddodd Cymru dan 20 i sgori chwech cais yn erbyn Ffrainc.
Roedd Scott Williams yn un o bump chwaraewyr y Scarlets oedd yn rhan o garfan rhyngwladol Dan 20.
Tim Cymru dan 20: Dan Fish (Gleision); James Loxton (Gleision), Ben John (Gweilch), Scott Williams (Scarlets), Kristian Phillips (Gweilch); Matthew Jarvis (Gweilch), Rhys Downes (Gleision); Dan Watchurst (Dreigiau), Rhys Williams (Gleision), Simon Gardiner (Scarlets), Macauley Cook (Gleision), Lloyd Peers (Gweilch), Morgan Allen (Pontypwl), Josh Navidi (capt, Gleision), Toby Faletau (Dreigiau).
Eilyddion: Ieuan Davies (Crwydriaid Morgannwg), Rhodri Jones (Scarlets), James Thomas (Dreigiau), Rhys Jenkins (Dreigiau), Edward Siggery (Llanymddyfri), Gareth Davies (Scarlets), Dean Gunter (Gleision). Eilydd teithiol: Trystan Davies (Scarlets).
Y Scarlets, Parc Pemberton, Llanelli, Sir Gâr SA14 9UZ
Ffôn: 01554 783900 comments@scarlets.co.uk




