Wrth gasglu pedwar pwynt dros y penwythnos mae’r Scarlets bellach ar 21 pwynt yn nhabl Cynghrair Magners ac o fewn dau bwynt i’r Gleision sydd ar 23. Mae gan y Scarlets gêm yn ychwanegol i’w chwarae yn dilyn gohirio’r gêm yn erbyn Munster. Ar frig y tabl y mae Leinster ar 34 pwynt, symudodd y Gweilch yn ôl i’r trydydd safle yn dilyn gêm y penwythnos ac mae’r Dreigiau yn y chweched safle ar 29 pwynt.
Fe fydd gêm y Scarlets yn erbyn Gleision Caerdydd yn ornest a hanner ym Mharc y Scarlets ar ddydd Sadwrn 17 Ebrill ac fe fyddant yn gobeithio gweld cefnogaeth frwd.
Dywedodd Nigel Davies, Prif Hyfforddwr y Scarlets: “Mae’r gêm yn erbyn y Gleision yma yn mynd i fod yn anferth – mae’n agos iawn yn y tabl ar hyn o bryd gyda chwech gêm yn weddill. Fe fyddwn yn edrych ar bob gêm yn eu tro ond mae’n bendant yn mynd i fod yn gyfnod hynod o ddifyr i’r cefnogwyr.
“Mae yna garfan ifanc iawn yma yn y Scarlets ac mae yna lot o bwysau arnom, ond mae’r chwaraewyr yn gallu ymdopi â’r pwysau. Rhoddwyd pwysau arnynt wythnos diwetha’ i ymateb i’r pwysau ac mae bob un ohonynt, yn unigol ac fel grwp, wedi ymateb yn bositif. Mae’n dal i fod ambell broblem gyda chyfathrebu ar y cae ac mae angen gwneud yn iawn o hynny, ond ein cryfhau fel uned bydd llwyddiant hynny.”
Canmolwyd seren y gêm Tavis Knoyle, 19 mlwydd oed, gan Davies ac fe’i alwyd yn ‘dalent arbennig’ yn dilyn perfformiad arbennig trwy gydol y gêm yn erbyn Ulster.
“Rydym yn falch iawn bod Tavis yn rhan o’r garfa, mae wedi dioddef anaf neu ddau y tymor hwn ond mae’n wych i’w weld yn ôl ar y cae, fe ddangosodd heno ei fod yn dalent arbennig. Roeddwn i’n hyfforddi pan oedd Mike Phillips a Dwayne Peel yn dod trwy’r system ac mae e o’r un safon a’r ddau ar hyn o bryd.
“Rydym yn awyddus iawn i ddatblygu cryfder yn y garfan a sicrhau hynny ym mhob safle, mae safle’r mewnwr yn dechrau edrych yn gryf iawn. Os ydym yn mynd i ddatblygu a symud ymlaen fel tim mae’n rhaid i ni wneud yn siwr bod yna gystadleuaeth am lefydd ac fe fyddwn yn edrych i ddatblygu hynny trwy’r garfan.”
Dywedodd Davies bod rhoi’r sylw yma i chwaraewyr ifanc, megis Dominic Day, a chwaraeodd yn ei hanner ganfed gêm yn erbyn Ulster nos Wener, yn bwysig i’w datblygiad.
“Mae’n bwysig rhoi’r cyfle i chwaraewyr ifanc er mwyn iddynt ddatblygu – os nad ydynt yn chwarae ar y lefel yma mewn gemau allweddol nid oes gobaith eu gweld yn datblygu.”
Roedd yn bwysig iawn hefyd i weld chwaraewyr profiadol megis Matthew Rees, David Lyons a Iestyn Thomas yn chwarae rol allweddol yn ystod y gêm
Dywedodd capten y Scarlets, David Lyons: “Fe fyddai wedi bod yn braf i gymryd pump pwynt o’r gêm gyda phwynt bonws ond roedd yn dda i chwarae 80 munud, a gwella ar yr hyn i ni wedi llwyddo i wneud yn gynharach yn y tymor.
“Rydym wedi rhoi cyfle i lot o dalent ifanc y rhanbarth y tymor yma ac mae’n wych i’w gweld yn perfformio mor dda – rhai ohonynt yn cael y cyfle mawr cynta’ yn erbyn Ulster megis Tavis Knoyle, Andy Fenby a Joe Ajuwa ar yr asgell.”
Y Scarlets, Parc Pemberton, Llanelli, Sir Gâr SA14 9UZ
Ffôn: 01554 783900 comments@scarlets.co.uk




