Yr ardaloedd a gymrodd rhan yn y digwyddiad o dan ofal adran gymunedol y Scarlets oedd Ysgolion Mynydd Mawr dan 11, Ysgolion Caerfyrddin dan 11 ac Ysgolion Penfro dan 11.
Fe fwynhaodd y chwaraewyr ifanc dwrnament ar gae hyfforddi’r Scarlets ym Mharc y Scarlets cyn mynd ymlaen i gymryd rhan mewn gorymdaith cyn y gêm o amgylch y cae chwarae.
Dywedodd Swyddog Cymunedol y Scarlets, Justin Lloyd: “Roedd yn noson arbennig, roedd yna grwp o chwaraewyr arbennig yma ac roedd yn braf eu gweld yn mwynhau eu hunain cyn bod yn rhan o’r dorf a wyliodd y Scarlets yn curo Ulster.
“Dyma’r tro cynta’ i ni gynnal digwyddiad o’r math ac roedd yn lwyddiant ysgubol. I ni’n gobeithio parhau gyda’r math yma o ddigwyddiadau cy nein gemau. Diolch i bawb a gymrodd rhan.”




