Mae’r Scarlets yn cynnig i cyfle yma i unigolyn sydd â chymhwyster is-radd neu ôl-radd yng ngwyddorau’r Chwaraeon ac yn chwilio am brofiad ym myd cryfder a chyflyru.
Fe fydd hyn yn golygu gweithio ar y cyd gyda un o hyfforddwyr gorau’r maes – y gwr o Awstralia, Brad Harrington a oedd gynt gyda thim y Super 14 New South Wales Waratahs ac fe dreuliodd 3 blynedd o 2004 fel hyfforddwr cryfder a chyflyru gyda Leinster. Ganwyd yn Sydney ac fe gynorthwyodd tim Iwerddon i’r Cwpan Byd diwetha’.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru’r Scarlets: “Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn sydd â chymhwyster Gwyddorau’r Chwaraeon i ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth o’r maes. Rydym yn chwilio am unigolyn allblyg, awydd i ddysgu a’r angerdd i weithio’n galed a chreu gyrfa yn y maes.
“Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arolygu chwaraewyr yn ystod sesiynau yn yr ystafell codi pwysau a sesiynau hyfforddi ar y cae, casglu, dadansoddi a reoli data o sesiynau hyfforddi, profion a monitro wythnosol. Gosod cyfarpar hyfforddi cyn sesiynau a chymryd cyfrifoldeb am gynhaliaeth y cyfarpar ac ymchwilio i feysydd o ddiddordeb.
“Mae maes cryfder a chyflyru yn ardal holl bwysig ac yn un holl bwysig yn y byd rygbi heddiw.
“Mae’n rhan holl bwysig o garfan y Scarlets a’r paratoadau cyn y tymor ym misoedd yr haf yn ogystal a gofalu ar ôl y tim yn ystod y tymor. Mae’n rôl ddifyr a phrysur i fyfyriwr i ddysgu mewn awyrgylch broffesiynol.”
Fe fydd y cymhwysterau canlynol yn hanfodol:
• Cymhwyster is-radd neu ôl-radd yng Ngwyddorau’r Chwaraeon / Cryfder a Chyflyru.
• Awydd cryf i ddilyn gyrfa yn y maes.
• Deallusrwydd da o anatomi a ffisioleg.
• Yn gyfarwydd gyda Microsoft Excel a Word.
• Awydd i weithio.
• Allblyg ac yn broffesiynol.
Os hoffech ymgeisio am y swydd breswyl anfonwch eich CV a llythyr cais at bharrington@scarlets.co.uk. Mae’n rhaid i bob cais gyrraedd y Scarlets erbyn 5pm Gwener 26 Mawrth 2010. Mae swyddi preswyl yn swyddi di-dâl a chyfrifoldeb yr unigolyn fydd dod o hyd i lety a thrafnidiaeth i Barc y Scarlets.




