Lloegr bydd gwrthwynebwyr cynta’ Cymru ddydd Sadwrn yn Stadiwm Rugby Capitolina (4pm), wedyn yr Eidal ar Stadio Tre Fontane, dydd Mawrth 6ed (2.30pm) a Ffrainc dydd Gwener 9fed yn stadiwm Chwe Gwlad yr Eidal, Stadio Flamino (2.30pm).
Mae gan y Scarlets gyfraniad cryf yn y garfan gan gynnwys y capten Sion Bennett o Arberth.
Dywedodd Rheolwr Academi’r Scarlets, Kevin George: “Mae’n wych i weld gymaint o’n chwaraewyr ifanc fel rhan o’r garfan yn enwedig yn dilyn tymor mor llwyddiannus.
“Dyma’r tro cynta’ i’r chwaraewyr ifanc yma gael blas o rygbi rhyngwladol ac fe fydd yn brofiad arbennig iddynt. Mae’n dangos pwysigrwydd Academi’r Scarlets hefyd ac ethos y rhanbarth o gefnogi a datblygu talent ifanc lleol.
“Hoffwn ddymuno pob lwc iddynt yn y twrnament a hofwn longyfarch Sion Bennett am dderbyn rol y capten.”
Chwaraewyr y Scarlets sydd yng ngharfan Cymru D16:
Jordan Williams o Lanelli, Sion Bennett (capt) o Arbeth, Daniel Thomas o Gaerfyrddin, Jonathan Williams o Gydweli, Steffan Hughes o Lanelli, Thomas Ball o Gydweli, Connor Lloyd o Arbeth a Jake Randall o Rhydaman.
Carfan Ysgolion Cymru Dan 16 a’r tim a fydd yn dechrau yn erbyn Lloegr (Sadwrn 3 Ebrill)
Jordan Williams (Scarlets); Aron Evans (Gogledd), Lloyd Chalke (Gleision), Ben Roberts (Gweilch), Ryan Evans (Gweilch); Sam Davies (is-gapt, Gweilch), Will Batcup (Gweilch); Nicky Smith (Gweilch), Evan Yardley (Gweilch), Daniel Goode (Dreigiau), Chris Lacey (Gleision), Rhodri Hughes (Gweilch), Sion Bennett (capt, Scarlets), Daniel Thomas (Scarlets), Jonathan Williams (Scarlets).
Eilyddion o:
Steffan Hughes (Scarlets), Ben Edwards (Dreigiau), Luke Connolly (Gleision), Tomos Owen (Gweilch), Rob Dudley Jones (Gweilch), Gavin Nash (Gleision), Thomas Ball (Scarlets), Connor Lloyd (Scarlets), Jake Randall (Scarlets), Jack Dixon (Dreigiau), Rhys Williams (Gweilch)











