Dywedodd wedi'r gêm ei fod yn falch iawn o fod yn rhan o garfan Cymru ar ôl tymor yn unig gyda'r Scarlets: "Mae'n anrhydedd cael chwarae dros eich gwlad, ond roedd y profiad yn un eitha' od i fi.
"Roedd yn siomedig iawn i golli yn y ffordd wnaethon ni. Rydym wedi bod yn hyfforddi'n galed ac rydym yn obeithiol iawn o sicrhau gwell canlyniad wythnos nesaf. "
Er siom y golled yn erbyn y Crysau Duon dydd Sadwrn dywedodd Knoyle ei fod wedi derbyn digonedd o negeseuon wrth ei ffrindiau a'i deulu adref yng Nglynnedd. Roedd ei gyd chwaraewyr yn y Scarlets yn hapus iawn hefyd. Knoyle yw'r 199 Scarlet i ennill cap dros Gymru.
Dywedodd Prif Hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies, sydd wedi hyfforddi chwech o'r chwaraewyr oedd ar y cae dydd Sadwrn i'w capiau cyntaf, gan gynnwys Lee Bryne, Jon Davies, Stephen Jones, Mike Phillips, Tavis Knoyle a Rob McCusker; "Roeddem ni gyd yn hapus iawn i weld Tavis yn ennill ei gap cynta', a gobeithiwn fod yna nifer mwy i ddod.
Mae wedi gweithio'n galed iawn gyda ni, mae e'n awyddus iawn i ddangos ei ddawn. Fe fydd yn sicr o ennill lot o brofiad o'r daith yma er y canlyniadau."
Daeth y pum Scarlet oedd yn rhan o'r 22 i'r cae yn erbyn Seland newydd. Ymadawodd y maswr Stephen Jones a'r cae wedi 57 munud ac mae'n aros am ganlyniadau profion ar ei law. Daeth y canolwr Jon Davies a'r blaenasgellwr Rob McCusker i'r cae fel eilyddion yn hwyr yn yr ail hanner.
Mae disgwyl i Jon Davies ddechrau dros Gymru yn y gêm brawf olaf yn erbyn Seland Newydd wedi i Andrew Bishop dderbyn anaf i'w law.
Dywedodd Stephen Jones, a giciodd gôl adlam ar ddechrau'r gêm i fynd a Chymru ar y blaen, bod yr ail hanner wedi bod yn siomedig, yn enwedig wedi perfformiad mor gryf yn yr hanner cynta'. Dywedodd: "Maent yn ymosod yn arbennig o dda. Roedden ni'n siomedig ein bod wedi caniatau iddynt chwarae mor dda yn yr ail hanner. Mae Dan Carter yn chwaraewr arbennig ac fe gafodd gêm dda yn ein herbyn. Fe fydd yn rhaid i ni weithio'n galed wythnos hon er mwyn sicrhau gwell perfformiad wythnos nesaf."
Ganwyd a magwyd Tavis Knoyle ym Mhontneddfechan a chwaraeodd ei rygbi cynnar i Glwb Rygbi Glynnedd, yna i Glwb Rygbi Castell Nedd cyn ymuno a'r Scarlets tymor diwethaf. Chwaraeodd dros y Gweilch Dan 16 ac mae ganddo gapiau Dan16, Dan18 a Dan20 i Gymru. Rhyddhawyd ef o Glwb Rygbi Castell Nedd gyda blwyddyn yn weddill ar ei gytundeb ac ymunodd a'r Scarlets ym mis Mai 2009 ar gytundeb dwy flynedd.




