Chwaraeodd ei gêm agoriadol dros Gymru yn erbyn Canada yn haf 2009 ac fe fydd yn ennill ei seithfed gap dydd Sadwrn. Mae'r canolwr ifanc, 22 mlwydd oed o Orllewin Cymru, wedi chwarae 62 o gemau i'r rhanbarth ac wedi sgori 95 o bwyntiau - gan gynnwys dau gais yn y fuddugoliaeth yng Nghwpan Heineken yn erbyn Gwyddelod Llundain tymor diwethaf.
Dywedodd yr hyfforddwr Robin McBryde: "Fe ddywedom o'r cychwyn cynta' ein bod am roi cyfle i rai chwaraewyr a does na ddim cyfle gwell i gael na profi'ch hun ar y llwyfan rhyngwladol yn erbyn y Crysau Duon yn erbyn Seland Newydd.
"Rwy'n edrych mlaen i weld Jon yn chwarae, cipolwg ohono'n unig i ni wedi ei weld ar y llwyfan rhyngwladol ac mae ganddo gyfle'n awr i brofi ei hun yn erbyn y Crysau Duon, mae'n gyfle arbennig iddo. Mae Jamie ac ef yn cario'r bêl yn dda ac mae'r ddau yn chwaraewyr cryf yn ymosodol."
Dywedodd Nigel Davies, Hyfforddwr y Scarlets: "Rwy'n falch iawn dros Jon, nid yw wedi derbyn nifer o gyfeloedd gyda Chymru eto ond mae hwn yn gyfle gwych iddo. Fe all wynebu Seland Newydd a dangos ei dalent fel canolwr.
"Mae e'n gryf, yn bwerus ac yn gyflym ac fe fydd yn wynebu un o'r timau gorau yn y byd. Fe fydd y profiad yn un amhrisiadwy iddo ac fe fydd yn ei wneud yn fwy awyddus i berfformio'n dda dros y Scarlets. Mae'n dda i'w ddatblygiad proffesiynol."
CYMRU: Lee Byrne; Leigh Halfpenny, Jonathan Davies, Jamie Roberts, Tom Prydie; Dan Biggar, Mike Phillips; Paul James, Matthew Rees, Adam Jones, Bradley Davies, Alun Wyn Jones, Jonathan Thomas, Gavin Thomas, Ryan Jones (capt).
Eilyddion: Huw Bennett, Craig Mitchell, Deiniol Jones, Rob McCusker, Richard Rees, Stephen Jones, Will Harries











