Dywedodd: "Mae'r bois yn ymwybodol iawn o'r lefel sy'n rhaid iddynt berfformio iddo, fe fydd ennill profiad yn erbyn y chwaraewyr gorau yn y byd yn allweddol bwysig iddynt fel unigolion - mae'n brofiad tebyg i fy ngyrfa cynnar i, cefais gyfle i chwarae'n wythnosol ar y lefel ucha' ac mae hynny'n mynd i effeithio ar eich safon yn gyffredinol."
Ychwanegodd hefyd ei fod yn amser i chwaraewyr y Scarlets, beth bynnag yw eu hoed, i gamu i'r lefel nesa' a dangos yr hyn y maent yn gallu ei gyflawni tymor nesa'. Dywedodd y byddai'r tim yn ffocysu ar berfformio'n well ac yn fwy cyson yn y Cynghrair Magners tymor nesa'.
Mae Lyons, a gynrychiolodd y Wallabies mewn dau Gwpan y Byd, wedi perfformio'n gyson i'r Scarlets gan wneud 59 ymddangosiad a sgori 30 o bwyntiau dros y ddau dymor diwethaf. Tri gêm gystadleuol yn unig y mae'r wythwr wedi ei golli ers gyrraedd o Awstralia. Chwaraeodd ym mhob un o 30 gêm y Scarlets yn ei dymor gyntaf.
Fel un sy'n boblogaidd iawn gyda'r cefnogwyr oherwydd ei ymrwymiad i'r rhanbarth, roedd yn falch iawn o fod yn gapten ar y tim am gyfnod helaeth o'r tymor diwethaf yn dilyn anaf i Mark Jones a dywedodd fod gan y rhanbarth lawer i gynnig iddo fel chwaraewr.
Dywedodd y chwaraewr 30 mlwydd oed: "Rwyf am fod yn rhan o garfan y Scarlets i'r dyfodol, mae yna ddigonedd o bethau i edrych mlaen ato ac mae yna chwaraewyr da yn datblygu yn y garfan. Cefais gyfle i edrych ar gynigion eraill ond roeddwn am aros gyda'r Scarlets. Mae yna lot o waith i'w wneud, ond mae yna grwp da iawn o fois yma, o ran chwaraewyr a hyfforddwyr, ac rwy'n hyderus ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir ac rwyf am fod yn rhan o hynny.
"Mae gan y rhanbarth gefnogwyr da, maent yn angerddol am y rygbi ac mae yna gyfleusterau gwych yma ym Mharc y Scarlets. Mae'n rhaid i ni ffocysu ar berfformio'n fwy cyson tymor nesa'."
Arwyddodd Lyons cytundeb pedair mlynedd gyda'r Scarlets ym mis Mai 2008 ac mae ganddo ddau dymor arall ar ei gytundeb ym Mharc y Scarlets. Fe fydd y blaenwr profiadol yn rhan bwysig o ymgyrch y Scarlets tymor nesa' ac fe fydd y newyddion ei fod yn parhau gyda'r Scarlets am y ddau dymor nesa' yn codi calonnau'r cefnogwyr.











