Aeth y chwaraewyr ati i gyfarfod partneriaid bywyd iachus a chymunedol y rhanbarth Daioni, cynhyrchwyr diodydd llaeth a ran o gwmni teuluol Trioni Cyf yn Sir Benfro.
Cafwyd ymweliad i bafiliwn y CFfI hefyd, mae hyn yn dilyn partneriaeth diwrnod gêm llwyddiannus rhwng y Scarlets a'r Ffermwyr Ifanc y tymor diwethaf.
Mae stondin nwyddau'r Scarlets wedi mwynhau cyfnod prysur yn y Sioe Frenhinol gyda digonedd o bobl yn prynu nwyddau'r Scarlets ac yn dangos eu lliw.
Llongyfarchiadau i Ellis Williams o Gefneithin, a ddaeth o hyd i Cochyn yn y tractor ac enillodd bar o docynnau tymor ar gyfer tymor 2010/2011!
Os hoffech gyfle i ennill par o docynnau tymor, cymerwch rhan yng nghystadleuaeth unirgyw'r Scarlets yn y Sioe Frenhinol. I gael cyfle i ennill mae angen i chi ddod o hyd i Cochyn a fydd wedi ei guddio mewn lleoliadau amrywiol ar faes y Sioe trwy gydol yr wythnos. Wedi ei ddarganfod bydd angen i chi ymweld a stondin y Scarlets a chwblhau taflen gystadlu.
Mae Swyddogion Cymunedol y Scarlets wedi bod yn brysur iawn hefyd yn cyfarfod cefnogwyr ac yn dosbarthu posteri'r tim ac yn cynnal sesiynau sgiliau yn y Maes Chwaraeon.
Fe fydd sesiynau sgiliau'r Scarlets yn cymryd lle yn y Maes Chwaraeon ar:
Dydd Iau 22ain Gorffennaf 11:15 - 12:00 and 2:15 - 2:45pm.
Fe fydd capten 2009-2010 y Scarlets, Mark Jones, yn bresennol yng ngem terfynol rygbi 7 bob ochr CFfi dydd Mercher.
Dewch i'n gweld a dangoswch eich lliw!




