Dywedodd: "Rwyf wedi bod yn gefnogwr mawr o'r Scarlets a Llanelli ar hyd fy mywyd ond nid wyf wedi prynu tocyn tymor o'r blaen. Nid oeddwn yn mynychu gemau yn rheolaidd ond erbyn hyn gyda theulu ifanc sy'n gefnogwyr brwd o'r Scarlets a'r cynigion arbennig sydd gan y Scarlets roedd yn benderfyniad rhwydd i'w wneud.
"Rydym am annog a chefnogi'r plant a'u hoffter hwy o'r Scarlets. Mae'n braf gweld rhywbeth sy'n denu eu sylw gymaint. Does dim llawer o bethau i deuluoedd wneud erbyn hyn mewn awyrgylch diogel a difyr ac felly rydym yn edrych ymlaen i'r tymor newydd."
"Fe ddaethom fel teulu i ambell gêm ar ddiwedd y tymor diwethaf ac roeddem yn hapus iawn gyda'r hyn yr oedd y Scarlets yn ei gynnig i deuluoedd, roedd yr awyrgylch yn drydannol ac roedd yna ddigonedd o bethau ar gael i deuluoedd. Mae'r lle'n ddiogel ac wedi ei drefnu'n dda ac mae Pentref y Cefnogwyr yn gyfleuster arbennig ar ddiwrnodau gêm.
Fe fydd Peter a'i blant Oliver (6) Niamh (4) a Noah (2) yn ymuno â dau deulu arall sydd wedi ymuno â theulu'r Scarlets hefyd ac a fydd yn eistedd gyda'i gilydd ar ddiwrnodau gêm.
"Doedd dim amheuaeth, mae'r pris yn arbennig ac mae'r plant i gyd yn cael dod i mewn am ddim."
Hoff chwaraewyr teulu'r Scott yw Stephen Jones a Rob McCusker.
Dywedodd y Scarlets bod y cynigion newydd wedi derbyn cefnogaeth bositif iawn gan gefnogwyr ac mae'r niferoedd yn well na'r un cyfnod y llynedd.
Mae'r Scarlets yn dangos bod ethos y rhanbarth o ddatblygu talent ifanc lleol yn gweithio, gyda chwaraewyr ifanc fel Rob McCusker, Tavis Knoyle, Ken Owens, a Jonathan Davies i gyd yn perfformio ar y llwyfan rhyngwladol yn ddiweddar. Mae gwerthiant tocynnau tymor eleni yn dangos bod gwelliannau ym Mharc y Scarlets yn talu ar eu canfed ac yn denu sylw cefnogwyr hen a newydd.
Dywedodd Rupert Moon, Cyfarwyddwr Masnachol y Scarlets bod nifer y gwerthiant wedi bod yn ysgubol: "Rydym ar y ffordd i gyrraedd y nifer mwyaf o docynnau tymor erioed - rydym wedi cyrraedd 3,000 mewn ychydig dros tair wythnos a dim ond chwech wythnos tan y gêm agoriadol. Mae wastad mwy o ddiddordeb hyd at ddiwedd mis Awst wrth i'r gemau cyfeillgar ddechrau.
"Y gwahaniaeth arall yw fod yna nifer o gwsmeriaid newydd wedi prynu tocynnau tymor eleni hefyd. Rydym wedi gweithio'n galed dros y tymor diwethaf i gyd-weithio gyda'n cefnogwyr - y cefnogwyr sydd wedi bod gyda ni ers blynyddoedd a'r cefnogwyr newydd.
"Mae pobl yn dechrau sylweddoli bod ein buddsoddiad ni yn nhalent Cymreig fel Tavis a Rob yn talu ar ei ganfed. Mae Pentref y Cefnogwyr yn rhwybeth nad oes unrhyw rhanbarth arall yn ei gynnig - ni yw'r unig rhanbarth sydd a chanolfan dan-do unigryw i 1,500 o bobl ac rydym yn edrych ar ffordd o wella hyn erbyn y tymor newydd."
Eleni yw'r tro cyntaf i'r rhanbarth gynnig cynllun talu dros 12 ms sy'n rhoi'r cyfle i gefnogwyr wasgaru'r taliadau dros y flwyddyn.
Mae yna docyn tymor ar gael i oedolion am £99 yn unig - y pris gorau yng Nghymru, a'r ychwanegiad o docyn teulu i bedwar am llai na £200.
Mae'r Scarlets yn credu'n gryf mewn denu teuluoedd. Mae gan ddisgyblion ysgol uwchradd (dan 18) y cyfle i brynu tocynnau i'r safle sefyll am £16 am y tymor cyfan - £1 y gêm.











