Ar benwythnos cyntaf mis Hydref fe fydd y Gweilch yn teithio i Barc y Scarlets ar gyfer gêm ddarbi gyntaf y stadiwm. Fe fydd y Scarlets yn teithio i Gaerdydd i wynebu'r Gleision yng nghanol y mis cyn croesawu Rhyfelwyr Glasgow i Barc y Scarlets ar ddiwedd y mis.
Ym mis Tachwedd caiff cefnogwyr y Scarlets gyfle i deithio i'r Eidal i wynebu Aironi yn Stadio Zaffanella ar ddiwedd y mis. Daw gemau 2010 i ben gyda gêm ddarbi ym Mharc y Scarlets yn erbyn y Dreigiau.
Fe fydd tymor arferol Cynghrair Magners yn dod i ben gyda gêm ddarbi cartref yn erbyn Gleision Caerdydd ar benwythnos 6ed Mai cyn y rownd cyn derfynol y penwythnos wedyn a'r rownd derfynol ar ddydd Sadwrn 28ain Mai.
Dyddiadau penwythnosau sydd wedi eu cyhoeddi ar hyn o bryd. Fe fydd dyddiadau penodol ac amserau'r gemau'n cael eu cyhoeddi wedi trafodaethau gyda phartneriaid darlledu Cynghrair Magners.
Y partneriaid teledu ar gyfer 2010/11 fydd BBC ALBA (Yr Alban), BBC Gogledd Iwerddon, RTE a TG4 (Iwerddon), yn ogystal a BBC Cymru ac S4C.
Fe fydd y rhestr gemau ar www.scarlets.co.uk yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.




