Chwaraeodd Quinnell i'r Scarlets am y tro cyntaf yn 2001 ac mae ganddo 23 ymddangosiad i'r rhanbarth - ymadawodd a Llanelli yn 2006 i ymuno â Rhyfelwyr Caerwrangon, lle'r oedd yn ffefryn gyda'r cefnogwyr, gan sgori naw cais mewn 20 ymddangosiad i'r clwb Saesneg. Symudodd i'r clwb Eidalaidd Viadana wedi hynny am ddwy flynedd.
Mae Quinnell yn ychwanegu dimensiwn arall i bac y Scarlets, gyda'r gallu i chwarae fel wythwr, blaenasgellwr a chlo ac mae wedi sefydlu ei hun fel chwaraewr pwerus yn ystod ei yrfa hyd yn hyn. Mae e'n bresenoldeb amlwg ar y cae chwarae, yn sefyll yn 6 troedfedd 7 modfedd (2.01m) ac yn 21 ston (138kg) ac mae ganddo'r pwer i gael effaith ar unrhyw wrthwynebwyr.
Mae Gavin yn rhan o un o deuluoedd enwocaf rygbi - mab ieuengaf Derek Quinnell a brawd Scott a Craig Quinnell, hwy oll yn gyn chwaraewyr rhyngwladol Cymru.
Mae Quinnell wedi chwarae unwaith ar gae Parc y Scarlets, i'r Barbariaid yn ystod ei gyn glwb ym mis Ionawr 2009.
Dywedodd Nigel Davies, Prif Hyfforddwr y Scarlets: "Mae'n gret gweld Gavin yn ôl, mae e'n chwaraewr cryf ac fe fydd yn gallu cynnig rhywbeth gwahanol i'r pac, mae'n gorfforol ac mae ganddo agwedd dda at rygbi, mae e hefyd yn Scarlet i'r carn.
"Mae e'n gariwr cryf a phwerus ac mae e'n bresenoldeb corfforol ar y cae.
"Mae'n newyddion da i'r rhanbarth i'w weld yn ôl, mae e'n deall ein ffordd ni o feddwl ac mae'n ymwybodol iawn o'r parch sydd tuag at grys y Scarlets ac rwy'n siwr y bydd ein cefnogwyr yn rhoi croeso twymgalon iddo.
"Mae angen iddo ddangos ei bersonoliaeth ei hunan hefyd, mae angen iddo ddefnyddio'r profiad y mae wedi meithrin yn yr Eidal gan greu effaith. Fe fyddwn ni'n ei drin fel unigolyn ac rydym yn awyddus iawn i greu cystadleuaeth am le yn y garfan a herio'r chwaraewyr i wneud eu gorau."
Dywedodd Gavin Quinnell: "Mae'n neis i ddod nôl i Gymru ac yn amlwg yn ôl i'r Scarlets, yn enwedig i'r stadiwm newydd ac yn ôl i rhanbarth sy'n teimlo fel cartref i fi a rhanbarth yr wyf i'n angerddol iawn drosti.
"Fe ddilynais y Scarlets tymor diwethaf ac mae'n braf gweld gymaint o chwaraewyr ifanc yn datblygu, mae gwreiddiau tim da yno ac mae yna ddigon o chwaraewyr balch a brwdfrydig yno sy'n awyddus iawn i gyflawni mwy. Fe fydd yn ddiddorol iawn i fod yn rhan o'r garfan. Rwy'n awyddus iawn i ymuno a hwy a dechrau ar y sesiynau hyfforddi wythnos nesaf.
"Rwyf wedi cael profiadau gwych yn yr Eidal ond mae'n dal i fod lot gennyf i ddysgu. Mae wedi bod yn brofiad da i fod yn rhan o ddiwylliant a ffordd o fyw gwahanol ac mae Viadana wedi bod yn le da i fi.
"Rwyf o'r farn bod gennyf ddigon i'w gynnig i'r Scarlets, yn enwedig gan fy mod wedi bod tu hwnt i Gymru ers cyfnod. Mae pawb yn fy ngweld fel chwaraewr corfforol ond rwyf am ddod yma a datblygu a gwella a chwarae fy rygbi gorau pan ddaw'r cyfle, mae'n crys yn meddwl lot i fi a fy nheulu.
"Mae'r cyswllt teuluol yn ysgogiad ychwanegol i fi - rwy'n llawer fwy profiadol erbyn hyn ac rwy'n ymwybodol iawn o'r hyn y mae'r cefnogwyr yn disgwyl, maent yn gefnogwyr gwych ac yr wyf yn dychwelyd i brofi fy hun."




