Dewch draw i Ganolfan Delme Thomas erbyn 6pm, mynediad a pharcio am ddim.
Yn ogystal a dadorchuddiad y cit newydd fe fydd yna ddigonedd o gemau a hwyl i'r teulu oll, stondinau bwyd a diod, 'inflatables' y Scarlets, arddangosfa gan grwp dawns lleol, sesiwn Holi Hallt gyda aelodau o garfan y Scarlets, a cherddoriaeth byw gyda'r band Rusty Shackle a'r gantores lleol Jacqueline Warwick.
Dywedodd Rupert Moon, Cyfarwyddwr Masnachol y Scarlets: "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i'r tymor newydd, mae gennym gemau mawr o'n blaenau gan gynnwys Teigrod Caerlyr a Perpignan yn y Cwpan Heineken a Gwyddelod Llundain a'r Saraseniaid yn y Cwpan LV=, mae'n addo bod yn dymor a hanner!
"Fe fydd lawnsiad y cit yn gyfel gwych i gefnogwyr weld y cit newydd cyn ei gyhoeddi'n swyddogol. Nid yw'r cit wedi ei lansio yn y ffordd yma o'r blaen ac fe fydd y noson yn perthyn i'r cefnogwyr, ac fe fydd yn ein paratoi at y gêm agoriadol!"
Lansio cit 2010-11 y Scarlets, Canolfan Delme Thomas, drysau i agor am 6pm a mynediad am ddim i bawb.
Mwy o wybodaeth i ddilyn.




