Mae Fa'amatuainu, sy'n gallu chwarae yn unrhyw safle yn y reng ôl a'r ail reng wedi arwyddo cytundeb blwyddyn i hybu carfan Nigel Davies ym Mharc y Scarlets.
Ers ymuno a Chaerfaddon yn 2006 mae Fa'amatuainu wedi gwneud 98 ymddangosiad i'r clwb gan sgori 15 cais.
Gyda'i ddawn creadigol, taclo caled a rhediadau cadarn mae Jonny "F" wedi ennill lle iddo'i hun yng nghalonnau'r cefnogwyr.
Ganwyd Jonny yn Seland Newydd, ac fe chwaraeodd ei gêm rhyngwladol cyntaf dros ei fam wlad Manu Samoa yn 22 mlwydd oed. Mae wedi chwarae yn y pump safle yn y sgrym.
Fe fydd ei gytundeb gyda Chlwb Rygbi Caerfaddon yn dod i ben ar ddiwedd tymor 2010-11 ac mae'n parhau o dan gyflogaeth Clwb Rygbi Caerfaddon tra ar gytundeb benthyg gyda'r Scarlets.
Mae ei drosglwyddiad i'r Scarlets ar gyfer tymor 2010-11 i chwarae yn y Cynghrair magners, Cwpan Heineken a Chwpan LV= yn ddibynnol ar drosglwyddiad ei Fisa gwaith o Gaerfaddon i'r Scarlets, a ddylai gael ei gadarnhau gan yr awdurdodau perthnasol yn y pythefnos nesaf.
Dywedodd Nigel Davies, Prif Hyfforddwr y Scarlets: "Fe fydd Jonny yn gallu cynnig opsiynau gwahanol i ni gyda'i chwarae dawnus a'i allu i chwarae yn y reng ôl a'r ail reng.
"Rydym wedi bod mewn trafodaethau gyda Chaerfaddon am gyfnod - mae'r trosglwyddiad yn gweddu'n dda i'n cynlluniau ni oherwydd rydym wedi bod yn chwilio am waed newydd a chwaraewyr arbennig ymysg y blaenwyr. Mae Jonny'n amlwg yn awyddus iawn i gael mwy o amser ar y cae chwarae ac mae ei drosglwyddiad yn gweddu i'r newidiadau yng ngharfan Caerfaddon tymor nesaf a'r chwaraewyr newydd sydd wedi ymuno a hwy dros yr haf.
"Mae e wedi bod yma cwpwl o weithiau i'n cyfarfod ac roedd yn bles iawn gyda'r cyfleusterau yma ym Mharc y Scarlets, mae'n edrych ymlaen i wneud argraff yma ymysg y tim a'r cefnogwyr.
"Rydym yn edrych ymlaen i'w groesawu i'r garfan a gweld beth all wneud dros y garfan tymor nesaf. Fe fydd yn rhoi mwy o gystadleuaeth ac egni ymysg y grwp ac mae hynny'n amlwg yn beth da."











