Fe fydd yr ymgeiswyr yn cael eu lleihau i grwp o 12-15 a fydd yn cymryd rhan yn y cwrs o ddydd Llun 2il i ddydd Gwener 6ed o Awst.
Rhaglen fer yw 'Get Started' sy'n rhoi'r cyfle i bobl ifanc ddatblygu trwy chwaraeon neu'r celfyddydau.
Fe fydd y cynllun yn dynodi dechrau'r bartneriaeth rhwng yr ymddiriedolaeth a'r rhanbarth rygbi.
Mae'r rhaglenni ar gyfartaledd yn bump diwrnod o hyd ac yn agored i bobl diwaith rhwng 16 a 25 mlwydd oed i wneud amrywiaeth o weithgareddau, sialensau a dathliadau ar ddiwedd y rhaglen i gydnabod eu llwyddiant.
Fe fydd rhaglen 'Get Started' y Scarlets yn cynnwys gweithgareddau fel sesiynau hyfforddi, hyfforddiant cymorth cyntaf a sgiliau cynllunio gwyl rygbi.
Dywedodd Justin Lloyd, Swyddog Cymunedol y Scarlets: "Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r cynllun yma a gweithio ar y cyd gyda'r 'Prince's Trust'. Mae e'n rhoi cyfle arbennig i bobl ifanc diwaith i ddatblygu sgiliau a fydd yn eu cynorthwyo yn ôl i'r gwaith.
"Fe fydd y cwrs ym Mharc y Scarlets yn addysgiadol, llawn hwyl ac fe fydd yn rhoi cyfle i'r unigolion i fagu hyder. Mae gwaith tim yn holl bwysig yn rygbi ac fe fydd y cwrs yma'n eu cynorthwyo i adeiladu perthnasau a phobl eraill ac i weithio fel rhan o dim."











