Ar ddiwedd y sesiwn fe ddaeth Lou Reed, Dom Day, Gavin Quinnell a Ben Morgan i gyfarfod aelodau'r gwersyll, rhoi bagiau nwyddau'r Scarlets i bob plentyn ac arwyddo chrysau-t y plant.
Mae disgyblion blynyddoedd 3-6 yn mwynhau eu hail diwrnod o gwrs ddeuddydd heddiw yn y ganolfan. Mae dros 80 o blant wedi cael y cyfle i ddysgu sgiliau rygbi, sgiliau dal pêl, gwaith tim a chael lot fawr o hwyl hefyd!
Ar ddiwedd y dydd ddoe fe ddaeth nifer o aelodau carfan y Scarlets i'w cyfarfod gan gynnwys Regan King, Iestyn Thomas, Andy Fenby, Johnathan Edwards, Gareth Maule, y chwaraewyr rhyngwladol Dafydd Jones a Morgan Stoddart, David Lyons, Emyr Phillips a George North.
Ar ddydd Mawrth 17eg Awst fe fydd y Scarlets ar yr hewl ac yn teithio i'r gorllewin draw i Sir Benfro. Fe fydd y Sesiwn Sgiliau yn cael ei gynnal yng Nghlwb Rygbi Hwlffordd rhwng 5pm a 7pm.
Mae'r sesiwn sgiliau yn agored i ddisgyblion ym mlynyddoedd 3 - 6 ac mae'n gyfle gwych i ddysgu sgiliau newydd, gweithio fel rhan o dim, gwneud ffrindiau newydd a chael lot fawr o hwyl!
Yn ogystal a holl hwyl y sesiwn sgiliau fe gewch chi gyfle i gyfarfod rhai o sêr y Scarlets gan gynnwys y chwaraewyr rhyngwladol a deithiodd i Seland Newydd gyda Chymru, Tavis Knoyle, Stephen Jones a Matthew Rees.
Os hoffech dderbyn gwybodaeth pellach am y sesiwn sgiliau neu os hoffech gofrestru ar gyfer y cwrs cysylltwch a'r Adran Gymunedol ar 01554 783927 neu ebostiwch community@scarlets.co.uk











