Dywedodd: "Roedd llawer yn rhwyddach i fod yn chwaraewr pan oeddwn i'n ifanc, fe ddechreuais i gyda Llanelli pan oeddwn i'n ddeunaw ac rwyf wedi bod yma byth ers hynny ac rwyf wedi cael profiadau ffantastig ar hyd y ffordd. Rwy'n gwybod fy mod i ychydig yn fwy profiadol ac ychydig yn hynach erbyn hyn ond rwy'n dal i fwynhau chwarae ac rwyf yn dal i deimlo'r un cynnwrf wrth dynnu'r crys ymlaen, tra fy mod yn teimlo fel hynny fe fyddaf yn parhau i chwarae. Rwy'n teimlo bod gennyf llawer i gynnig i'r bois ifanc hefyd ac rwy'n gobeithio y gallaf rhannu peth o'r profiad sydd gennyf."
Mae gan Cooper dri cap dros Gymru ac mae wedi chwarae gyda'r Scarlets ers 14 tymor. Mae wedi llwyddo i wneud 353 o ymddangosiadau i'r rhanbarth ac wedi sgori naw cais. Chwaraeodd ei gêm gyntaf i'r rhanbarth ar yr 20fed Awst 1996.
Dywedodd Cooper ei fod erioed wedi teimlo'r ysfa i symud o galon ac ysbryd rygbi yn Llanelli a bod yr ymdeilad o berthyn wedi ei gadw gyda'r Scarlets.
Dywedodd: "Mae hanes ein rygbi yn dweud cyfrolau ac rwyf innau wedi bod yn rhan o hynny; rwyf wedi profi amser da a rhai o'r cyfnodau anodd ond mae'r ysbryd wedi parhau ac mae hynny'n bwysig.
"Rwyf wedi bod yn ffodus i fod yn rhan o brofiadau arbennig yn y Cwpan Heineken ac roeddwn yn ddigon ffodus i chwarae gyda rhai o fawrion y Scarlets yn fy nyddiau cynnar ar Barc y Scarlets - fel Scott Quinnell, Ieuan Evans a Rupert Moon. Does dim gwell i gael i grwt ifanc."
Mae Cooper yn cyfaddef ei fod yn un o'r hen fois sydd ar ôl yn y garfan ond mae'n cyfaddef ei fod yn amser iddo basio'i brofiad ymlaen a gosod esiampl ar y cae.
Ychwanegodd: "Nid wyf wedi meddwl am rhoi'r gorau iddi i fod yn onest - rwy'n teimlo bod digon o waith gennyf ar ôl i'w wneud. Mae yna amrywiaeth dda yn y garfan ar hyn o bryd ac mae'r bois ifanc yn ein cadw'n brysur - mae'n dda bod yna chwaraewyr profiadol ar y cae hefyd i gadw'r ffocws ar adegau allweddol.
"Rwyf yn edrych ymlaen i'r gêm fory ac rwy'n ddiolchgar i'r rhanbarth a'r cefnogwyr am fy nghefnogi yn ystod fy ngyrfa."
Fe fydd y Scarlets yn chwarae Exeter Chiefs nos Wener 27ain Awst 2010 am 7pm. Gofynnir i gefnogwyr gyrraedd mewn da bryd os ydych yn prynu tocynnau ar y noson.











