Mae'r chwaraewr rhyngwladol, sydd a 11 cap dros Samoa rhwng 2005 a 2009, wedi creu argraff yn y Cynghrair Guinness gyda'i rhediadau deinamig a sgil ar y cae. Mae disgwyl iddo greu argraff ar garfan Nigel Davies gyda'i allu i chwarae yn y reng ôl a'r ail reng.
Ganwyd Fa'amatuainu yn Seland newydd ac mae wedi chwarae 98 o gemau i Gaerfaddon ers ymuno a hwy yn 2006, gan sgori 15 cais. Chwaraeodd ei gêm rhyngwladol cyntaf yn 22 mlwydd oed ac mae chwarae yn y pum safle ôl yn y sgrym.
Mae'r Scarlets wedi bod yn aros am ganiatad cyn ei ddewis yn dilyn newidiadau i'w fisa yn dilyn ei drosglwyddiad o Gaerfaddon. Fe ddaeth y caniatad penodol i'r clwb yn hwyr y bore yma ac mae Davies wedi penderfynu i ychwanegu Fa'amatuainu i'r fainc ar gyfer y gêm gyfeillgar heno.
Tim y Scarlets: 15 Morgan Stoddart, 14 Joe Ajuwa, 13 Gareth Maule, 12 Regan King, 11 George North, 10 Rhys Priestland, 9 Tavis Knoyle, 1 Iestyn Thomas, 2 Emyr Philips, 3 Rhys Thomas, 4 Lou Reed, 5 Damian Welch, 6 Josh Turnbull, 7 Johnathan Edwards, 8 David Lyons (capt).
Eilyddion: Rob McCusker, Gareth Davies, Daniel Evans, Jon Davies, Andy Fenby, Deacon Manu, Ken Owens, Dominic Day, Vernon Cooper, Richie Pugh, Jonny Fa'amatuainu.











