Os ydych wedi blaenarchebu'ch crys rydym yn falch o gyhoeddi y bydd eich crys gyda chi'n fuan iawn yn barod ar gyfer gêm agoriadol y tymor ym Mharc y Scarlets wythnos nesaf yn erbyn Connacht.
Mae yna grysau ar gael i'w prynu yn y siop heddiw hefyd! Os nad ydych wedi blaenarchebu'ch crys dewch draw i Siop y Scarlets bore yma i gael gafael ar y cit Burrda newydd.
Nifer bach sydd ar gael mewn ambell eitem felly peidiwch oedi. Fe fydd mwy o stoc yn cyrraedd yn fuan.
Mae'r Scarlets yn cynnig 25% o ostyngiad oddi ar eitemau'r sêl hefyd!
Galwch yn Siop y Scarlets, Parc y Scarlets a byddwch yn barod ar gyfer y tymor newydd; amserau agor y siop:
Llun-Mer: 9.30am-5.00pm
Iau: 10.00am-6.00pm
Gwe: 9.30am-5.00pm
Sadwrn (heb gêm): 10.00am-3.00pm
Diwrnodau gêm: O 9am
Nodwch nad yw'r gostyngiadau ar gael ar grysau 2010-11.











