Mae cefnogwyr o bob cwr o'r rhanbarth wedi rhoi eu bendith i'r crysau Scarlet a Tinplat glas newydd, ac wedi rhoi adborth bositif i'r cit newydd gan Burrda.
Datgelwyd y citiau newydd mewn noson lansio llwyddiannus iawn yn gynnar ym mis Awst wrth i'r chwaraewyr ddangos bod ganddynt dalentau ychwanegol i chwarae rygbi wrth fodelu'r citiau newydd ar y llwyfan!
Cafodd gweithwyr siop y Scarlets ddydd Sadwrn prysur iawn gyda nifer o gefnogwyr yn awyddus iawn i gael gafael ar y crysau newydd.
I'r rheini a flaenarchebodd y cit fe fydd yr archebion yn barod i'w casglu wythnos hon mewn pryd i'w gwisgo ar gyfer gêm agoriadol y tymor ym Mharc y Scarlets, wrth i'r Scarlets groesawu Connacht prynhawn Sadwrn (cic gyntaf 3pm).
Dywedodd Cyfarwyddwr Masnachol y Scarlets, Rupert Moon: "Rydym yn falch iawn bod pobl wedi croesawu'r citiau newydd. Mae'r lliw oddi cartref newydd yn wahanol ond roeddem yn awyddus iawn iddo fod yn wahanol er mwyn creu rhywbeth newydd ar gyfer ein cefnogwyr y tymor hwn. Mae'n rhan o'r neges ein bod yn driw i'n hunaniaeth a'n traddodiad wrth edrych i'r dyfodol."
Mae'r cit cartref yn Scarlet traddodiadol tra bod y cit oddi cartref yn las tinplat - yn cysylltu'n ôl a chit cyntaf LLanelli yn y cyfnod diwydiannol.
Chwaraeodd y clwb mewn glas tywyll ym 1879 pan symudodd Llanelli i Barc y Strade. Ym 1881-82 newidwyd i goch a briallen, yna i gwarteri coch a brown cyn chwarae yn y Scarlet traddodiadol ar 14eg Ebrill 1884.
Fe fydd gan y Scarlets ddillad Ymddiriedolaeth Elusennol Ray Gravell & Ffrindiau hefyd a fydd yn y siop cyn bo hir, a fydd pobl o bob oed yn gallu gwisgo gan wybod eu bod yn casglu arian i un o elusennau mwyaf adnabyddus y rhanbarth.
Gyda 25% o ostyngiad ychwanegol oddi ar eitemau ar y sêl yr wythnos hon dyma'r amser perffaith i chi alw yn siop y Scarlets.
Oriau agor:
Llun-Mer: 9.30am-5.00pm
Iau: 10.00am-6.00pm
Gwe: 9.30am-5.00pm
Dydd Sadwrn heb gêm: 10.00am-3.00pm
Diwrnodau gêm: O 9am
Nodwch na fydd y gostyngiadau ar gael ar y crysau newydd 2010-11











