Fe fydd y papurau newydd, sy'n cefnogi eu cymunedau lleol, yn cynorthwyo'r Scarlets i ddenu cefnogwyr hen a newydd gyda chyfres o gynigion arbennig cyn gemau mawr ym Mharc y Scarlets.
Fel rhan o'r bartneriaeth newydd, fe fydd logo'r Llanelli Star yn ymddangos ar flaen shorts y Scarlets y tymor hwn.
Yn ystod tymor 2010/11 fe fydd y partneriaid yn cyflwyno amrywiaeth o gynlluniau newydd a fydd yn fanteisiol hefyd i elusen y ddau gwmni, Ymddiriedolaeth Elusennol Ray Gravell & Ffrindiau, tudalennau cymunedol y Scarlets, gowbrau cymunedol a chystadleuaethau unigryw.
Dywedodd Rupert Moon, Cyfarwyddwr Masnachol y Scarlets: "Ein bwriad ni yw i gryfhau ac adeiladu ein cysylltiadau cymunedol trwy'r rhanbarth ac mae hynny'n cynnwys y bartneriaeth gyda'r cyfryngau sy'n gwasnaethu'n cymunedau lleol ni. Mae'n newyddion gret bode in partneriaid cyfryngau yn ymuno a ni am dymor arall i'n cynorthwyo i hyrwyddo'r Scarlets yn y De a'r Gorllewin.
"Ry'n ni'n dau am weithredu yng nghalon ein cymunedau a dathlu popeth sy'n dda am ein rhanbarth. Ry'n ni wedi'n hymrwymo i fuddsoddi mewn talent rygbi Cymreig ac mae canlyiadau ein ethos o ddatblygu talent ifanc yn dechrau dwyn ffrwyth!
"Ry'n ni am i bawb fod yn browd o'r tim a'n hymgyrchion ar y cyd gyda'n partneriaid cyfryngau er mwyn creu tensiwn ymysg ein cefnogwyr, sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r hyn sy'n mynd ymlaen ac yn cynnig cyfleoedd unigryw iddynt."
Dywedodd Paul Jenkins, Cyfarwyddwr Masnachol y Star: "Mae'r Llanelli Star yn falch o gefnogi'r Scarlets unwaith eto yn dilyn partneriaeth llwyddiannus y llynedd. Fe fydd yn rhoi cyfle i'n darllenwyr gael gwybodaeth unigryw, newyddion diweddara' a chynigion arbennig.
"Mae'r Star wedi bod yn rhan allweddol o'r gymuned leol am 100 mlynedd a mwy ac mae mewn sefyllfa arbennig i hyrwyddo a chefnogi'r Scarlets.
"Ry'n ni'n dymuno pob lwc i'r Scarlets ar gyfer y tymor ac fe fyddwn ni'n falch iawn o gefnogi'r tim y tymor hwn."











