Fe fydd hyn oll yn dechrau gyda gêm cartref cyntaf y Scarlets prynhawn Sadwrn yn erbyn Connacht yn y Cynghrair Magners - a fydd yn dechrau am 3pm.
Gyda mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn cael eu croesawu i deulu'r Scarlets, mae'r rhanbarth wedi lansio cynllun newydd i ddweud 'diolch' i'r cefnogwyr sy'n lledaenu'r newyddion da am fod yn ddaliwr tocyn tymor ym Mharc y Scarlets. Prisiau tocynnau teulu oedolion yn cychwyn o £149 ac mae plant ysgolion cynradd yn cael mynediad yn rhad ac am ddim!
Mae pob daliwr tocyn tymor sy'n atgyfeirio ffrind yn derbyn £25 o dalebion i wario ym Mharc y Scarlets trwy gydol y tymor.
Dywedodd Rupert Moon, Cyfarwyddwr Masnachol y Scarlets: "Ry'n ni wedi gweld ymateb arbennig i'r cynllun yma'n barod ac mae'n beth da i weld cynifer o bobl sy'n hapus i'n cynorthwyo i ledaenu'r neges am ein tocynnau tymor ac yn barod i annog mwy o bobl i ymuno a theulu'r Scarlets.
"Ry'n ni am ddweud diolch i'r bobl yna sydd mor barod i'n cynorthwyo ni a braf yw gweld pobl yn cymryd mantais o'r cynllun 'Atgyfeirio Ffrind'.
"Ry'n ni wedi ein calonnogi gan yr ymateb i'r cynllun ac mae'n wych ein bod ni'n cyflwyno 1,000 o gefnogwyr newydd i'r teulu tocynnau tymor.
"Ry'n ni am adeiladu ar yr awyrgylch arbennig sy'n datblygu ac mae yna nifer o opsiynau arbennig ar gael o hyd i bobl sydd am brynu tocynnau tymor!"
Mae'r Scarlets yn cynnig gostyngiadau i bobl sy'n prynu tocynnau cyn y diwrnod gêm. Prynnwch eich tocyn oedolyn am £20 (gan arbed £3) hyd at 5pm y diwrnod cyn pob gêm!











