Reed yw'r unig chwaraewr di-gap sydd wedi ei enwi yn nhim Gatland ar gyfer ail gem y twrnament ar ol ennill y gem gyntaf yn erbyn Iwerddon wythnos diwethaf yn Stadiwm Aviva.
Mae ei gyd-chwaraewyr rhanbarthol Jonathan Davies, George North a Rhys Priestland yn cadw eu llefydd yn y canol, ar yr asgell ac yn safle'r maswr.
Fe fydd bachwr y Scarlets Ken Owens a'r canolwr Scott Williams yn ymuno a Reed ar y fainc. Mae Gethin Jenkins a Dan Lydiate yn dychwelyd o anaf.
Tim Cymru i wynebu'r Alban, Sul 12fed Mawrth CG 3pm yn Stadiwm y Mileniwm: 15 Leigh Halfpenny, 14 Alex Cuthbert, 13 Jonathan Davies, 12 Jamie Roberts, 11 George North, 10 Rhys Priestland, 9 Mike Phillips, 1 Gethin Jenkins, 2 Huw Bennett, 3 Adam Jones, 4 Ryan Jones, 5 Ian Evans, 6 Dan Lydiate, 7 Sam Warburton (C), 8 Toby Faletau
Eilyddion:16 Ken Owens, 17 Paul James, 18 Lou Reed, 19 Andy Powell, 20 Lloyd Williams, 21 James Hook, 22 Scott Williams
Mae Ben Morgan wedi ei enwi ar y fainc wrth i Loegr deithio i Stadio Olimpico i wynebu'r Eidal ar ddydd Sadwrn 11eg Chwefror.
Fe fydd Sean Lamont yn wynebu ei gyd-chwaraewr rhanbarthol Jonathan Davies yn Stadiwm y Mileniwm yn nhim yr Alban.











