Ry'n ni'n falch o gyhoeddi y bydd teithiau oddi cartref y rhanbarth yn dechrau yn eu hanterth gyda thaith i Sixways i wylio'r gem fawr rhwng y Scarlets a Chaerwrangon ac ry'n ni am i chi ymuno a ni!
Am £10 y person yn unig fe allwch chi ddangos eich cefnogaeth, teithio gyda aelodau eraill o deulu'r Scarlets a chefnogi'r bois i fuddugoliaeth yn erbyn y Rhyfelwyr.
I archebu'ch lle cysylltwch a Natalie ar 0871 871 8088 neu ebostiwch nbunyan@scarlets.co.uk
Fe fydd y bws yn ymadael a'r llefydd canlynol ar ddydd Sadwrn 18fed Awst:
- 8.30am Caerfyrddin
- 8.45am Cross Hands
- 9.15am Parc y Scarlets
- 10.15am Gorllewin Caerdydd
Dyweodd Simon Easterby, Prif Hyfforddwr y Scarlets: "Mae'r tri gem cyfeillgar yn bwysig i ni fel carfan ac yn rhoi cyfle i'r hyfforddwyr weld datblygiad nifer o chwaraewyr.
"Mae'r gemau yma'n holl bwysig i'r ffordd y byddwn ni'n wynebu gemau cynnar y cynghrair PRO12 ar ddechrau mis Medi ac fe fydd yn bwysig i ni gael dechrau positif."
Os nad ydych wedi cael cyfle i adnewyddu eich tocyn tymor eto, neu'n gobeithio prynu am y tro cyntaf, cysylltwch a'r swyddfa docynnau ar 0871 871 8088 neu cliciwch yma i weld manylion pellach.











