Bookmark and Share
Newyddion Y Scarlets
RSS Feeds
Adroddian y Scarlets
Newyddion y Scarlets

Beth yw RSS?

RSS yw 'Really Simple Syndication' a dyma'r ffordd gorau i dderbyn gwybodaeth yr ydych ei angen o'r we – a'i dderbyn i'ch cyfrifiadur mewn ffordd rhwydd.

Mae unrhyw wefan sy'n arddangos logo RSS yn darparu ffynhonnell o newyddion a fydd yn cael i ddosbarthu i'ch cyfrifiadur trwy ddarn o feddalwedd o'r enw agregydd, neu Darllenydd RSS. Fe fydd nifer o gleientiaid ebost yn arddangos RSS.

Fe fydd y darllenydd yma'n gwirio'ch hoff wefannau yn gyson trwy gydol y dydd am wybodaeth newydd, ni fydd yn rhaid i chi chwilio trwy'r gwefannau oherwydd fe fydd y darllenydd yn gwneud y gwaith ar eich rhan.

Fe fydd y darllenydd RSS yn arddangos y prif straeon a casgliad byr o unrhyw newyddion newydd – gan eich galluogi chi i ddewis parhau i'r wefan neu peidio.

Sut mae dechrau defnyddio RSS?

Fe fydd angen i chi lawrlwytho darllenydd RSS, mae yna nifer o rhai ar gael yn rhad ac am ddim.

Fe allwch ddefnyddio RSS Reader, Sharp Reader, NewsGator a Feedreader. Fe ddewch o hyd i'r rhain – a nifer o rhai eraill – trwy wefan chwilio. Fe fydd nifer o gleientiaid ebost (megis Microsoft Outlook) yn arddangos RSS hefyd.

Mae angen i chi sicrhau bod eich darllenydd wedi ei lawrlwytho'n gywir er mwyn derbyn y wybodaeth yn gywir. Os nad oes gennych ddarllenydd RSS, efallai y bydd clicio ar y botwm RSS yn arddangos y dudalen yn gywir.

Mae'r mwyafrif o wefannau sy'n arddangos gwybodaeth RSS yn defnyddio botwm oren, ond fe all eraill arddangos linc syml i wefan. Mae rhai porwyr, gan gynnwys Firefox, Opera a Safari, yn chwilio am borwr RSS wrth i chi ymweld â wefan, ac yn arddangos y logo wrth ddod o hyd iddo. Mae hyn yn gwneud y gwaith o lawrlwytho llawer yn rhwyddach.

Ar ôl dod o hyd i'r porwr RSS ar eich hoff wefannau a'i hychwanegu i'ch darllenydd fe fyddwch yn derbyn y wybodaeth diweddara' i gyd. Mae'r wybodaeth sydd ar gael o'r wefan yma'n cael eu rhestri ar y dudalen yma, fodd bynnag, fe allwch ddod o hyd iddynt ym mwydlen RSS trwy Internet Explorer a thrwy icon RSS ym mhorwr Firefox a Safari.

Mae rhai gwefannau cymdeithasol megis Facebook yn caniatau i chi ychwnagu'r RSS i'ch tudalen eich hun.

Beth yw Twitter?

Gwasnaeth rhwydweithio cymdeithasol a blogio yw Twitter sy'n rhad ac am ddim ac mae'n caniatau i'r defnyddiwr anfon a darllen negeseuon hyd at 140 o gymeriadau, adnabir rhein fel tweets.

Mae'r negeseuon neu'r tweets yn arddangos ar dudalen y person ar twitter.com ac mae defnyddwyr eraill yn gallu eu darllen (adnabir y bobl yma fel dilynwyr).

Mae defnyddwyr Twitter yn gallu anfon a derbyn tweets trwy wefan Twitter, SMS neu ceisiau allannol sydd ar gael trwy ffonau symudol.

Sut i ddilyn defnyddiwr penodol ar Twitter?

Ar ôl i chi greu eich cyfrif ar www.twitter.com ewch i dudalen y defnyddiwr ar Twitter a chliciwch ar y botwm dilyn.

Fe fydd hyn yn sicrhau bod unrhyw wybodaeth newydd yn ymddangos ar eich tudalen twitter.

Newyddion Diweddaraf
Newyddion Rygbi
Newyddion Chwaraewyr
Newyddion yr Academi
Newyddion Clybiau Rhanbarthol
Newyddion Cymuned
Newyddion Cefnogwyr
Newyddion Tocynnau & Teithio
© 2009 Y Scarlets. Data Ystadegol © Sportstat Dosbarthwyd gan Sotic Pwerir gan RedDot Web Content Management