Y Scarlets, Parc Pemberton, Llanelli, Sir Gâr SA14 9UZ
Ffôn: 01554 783900 comments@scarlets.co.uk

Roedd y Scarlets yn colli o 13 pwynt i 12 ar yr hanner ond fe lwyddodd cais Steffan Evans i fynd a nhw ar y blaen a sicrhau’r fuddugolaeth.
Cyn hanner amser cafwyd ceisiau gan Jake Randall a Gethin Davies ac fe droswyd cais gan y prif sgoriwr Jordan Williams.
Dywedodd Wyn Thomas, rheolwr tîm y Scarlets; “Roedd y gêm yn un arbennig ac fe allai’r canlyniad wedi mynd naill fordd neu’r llall.
“Daeth cais Steffan Evans ar yr amser cywir, ac er i’r Gweilch weithio’n hynod o galed yn yr ail hanner, ond roedd ein amddiffyn yn gryf.”
