Fe fydd y mewnwr, Martin Roberts a ymunodd â charfan Cymru wythnos yma yn ymuno â’r Scarlets ac mae’r tîm bron heb newid i hwnnw a sicrhaodd fuddugolaeith yn erbyn Wasps Llundain penwythnos diwetha’.
Mae Nigel Davies wedi ychwanegu David Lyons (capten) a Ken Owens ar ôl iddynt gael wythnos o’r cae wythnos diwetha’. Mae gan Morgan Stoddart anaf i ac fe fydd oddi ar y cae am bedwar wythnos. Chwaraewyr eraill sydd allan oherwydd anafiadau yw Simon Easterby, Dafydd Jones a’r capten Mark Jones.
Yn dychwelyd i’r cae ar ôl anaf a gadwodd allan am 11 mis fydd y canolwr Regan King – hwb cefnogol iawn i’r rhanbarth ac i’r cefnogwyr.
Nid yw’r Scarlets wedi colli gêm yng Nghwpan LV= ar ôl sicrhau buddugoliaethau yn erbyn Caerwrangon, Wasps a gêm gyfartal yn erbyn Harlequins. Fe fydd y Scarlets mewn sefyllfa gymharol hyderus wrth wynebu’r Gleision ar ôl pedwar buddugolaeth o’r bron, ac ar y blaen â 11 pwynt yn ei grwp.
Mae Gleision Caerdydd, pencampwyr presennol y bencampwriaeth Eingl-Gymreig yn teithio i Barc y Scarlets yn dilyn buddugolaeth gadarn yn erbyn y Newcastle Falcons penwythnos diwetha.
Mae’n addo bod yn gêm a hanner wrth i’r ddau dîm fod ar frig eu grwpiau a’r ddau yn gobeithio sicrhau lle yn y rownd cyn derfynol, a gêm gartre’ hefyd.
Dywedodd Nigel Davies: “I ni wedi bod yn paratoi ar gyfer y gêm yma yn yr un modd a byddem yn paratoi ar gyfer gêm yn rownd y cwarteri, os fedrwn ennill y gêm yma fe fyddwn mewn sefyllfa cryf iawn i sicrhau gêm yn y rownd cynd erfynol ar ein tir ein hunain.
“Mae’n rhaid i ni ennill – wrth fynd i mewn i’r gêm yn erbyn y Wasps roedd yn rhaid i sicrhau dau fuddugolaeth yn y ddau gêm ola’ – dyw’r gêm yma’n ddim gwahanol.
“Mae’r Gleision mewn sefyllfa tebyg hefyd, i nig yd yn awyddus i ennill y gystadleuaeth yma gyda’r ddau dîm ychydig yn siomedig yng Nghynghrair Magners.
“Mae cystadleuaeth Cwpan LV= wedi bod yn wych i ni oherwydd i ni mewn grwp da ac mae’n chwaraewyr ifanc ni wedi cael cyfle i ddatblygu oherwydd y sylw maent wedi ei gael.
“Maent yn perfformio’n dda iawn ac mae’r gystadleuaeth am lefydd yn y garfan wedi datblygu oherwydd y ffordd y maent yn chwarae. Mae’r gwagle rhwng ein tîm cynta’ a’r rheini sydd ar yr ochrau yn lleihau ac mae’n ysgogi’r bois i ymarfer yn galetach ac i gystadlu am eu lle.”
Ychwanegodd Davies bod y perfformiadau diweddar wedi bod yn gymorth amwr i’r Scarlets ac i’r garfan yn gyffredinol: “Mae’n grêt, i ni wedi bod yn paratoi am y cyfnod yma ers tro byd ac mae sicrhau pedwar buddugoliaeth o’r bron yn wych.
“Fel yr wyf wedi datgan yn y gorffennol, mae’r gwaith a’r amser i ni wedi ei dreulio yn meithrin y chwaraewyr a’r talent ifanc yma wedi talu ar ei ganfed. Mae yna lot o waith ar ôl i wneud ond i ni yn gyffredinol yn symud ‘mlaen.
“Rwyf yn gwybod bod y cefnogwyr yn gwerthfawrogi’r gwaith y mae’r bois yn ei wneud ac fe fyddai’n braf gweld torf yma i ddangos eu gwerthfawrogiad i’r chwaraewyr – fe fyddai’n gret i nhw dderbyn y gefnogaeth.”
Dyddiadau rowndiau cyn derfynol Cwpan LV=
Rownd terfynol – Sul 14 Mawrth
Rownd terfynol 1: CG 12.15
Rownd terfynol 2: CG 16.15
Rownd terfynol – Sul 21 Mawrth CG 15.30 lleoliad i’w benderynu
Scarlets v Gleision Caerdydd; Cwpan LV= Sadwrn 6ed Chwefror 2010 (CG 1500) ym Parc y Scarlets.
15 Daniel Evans, 14 Lee Williams, 13 Gareth Maule, 12 Regan King 11 Andy Fenby, 10 Rhys Priestland, 9 Tavis Knoyle, 1 Phil John, 2 Ken Owens, 3 Deacon Manu, 4 Lou Reed, 5 Damian Welch, 6 Rob McCusker, 7 Josh Turnbull, 8 David Lyons (capt).
Eilyddion: 16 Iestyn Thomas, 17 Emyr Phillips, 18 Rhys Thomas, 19 Vernon Cooper, 20 Johnathan Edwards, 21 Martin Roberts, 22 Daniel Newton 23 Joe Ajuwa.
Scarlets
23 v 38
Gleision Caerdydd
6 Chwefror 2010
15:00
Parc y Scarlets
Cwpan LV=










