


Fe ddechreuodd y Scarlets yn gryf yn y gêm holl bwysig yma i’r ddau dîm. Llwyddodd y tîm cartre’ i ddal tir yn ddwfn yn hanner y Gleision am y pum munud agoriadol.
Wrth i’r Gleision symud yn nes at linell gais y Scarlets a ddod o hyd i ffordd o chwarae oedd yn gweddu iddynt, cafodd cic Dan Evans ei fwrw yn ôl ond roedd y maswr Rhys Priestland yn y lle cywir i’w gasglu a’i gicio yn ddiogel i’r asgell.
Aeth cic y Gleision yn farw dros y linell gefn a symudwyd y chwaraewyr yn ôl at y linell hanner ffordd; edrychodd y Scarlets yn beryglus wrth i’r mewnwr Tavis Knoyle fwydo’r bêl i fôn y sgrym, ail gydio ynddo o gefn y sgrym a’i basio at y canolwr Gareth Maule a daflodd pas anferthol i’r asgellwr Lee Williams. Gyda’i wynt yn ei ddwrn rhedodd ar hyd yr asgell at y linell gais ond fe basiodd yn ôl i’r cae chwarae ac aeth y bêl yn rhydd.
Wrth i’r bêl fynd yn rhydd collwyd cyfle cynnar i gael pwyntiau ar y sgorfwrdd. Ni gollodd y Scarlets fomentwm fodd y bynnag wrth iddynt ail gydio’n y bêl a gwneud eu ffordd yn ôl i linell gais y Gleision. Yn anffodus aeth y bêl yn rhydd unwaith eto ac fe lwyddodd y Gleision i gicio’r bêl yn ddiogel lawr y cae.
Gwnaeth y chwaraewr rhyngwladol Gareth Thomas ei hun yn amlwg am y tro cynta’ yn yr ornest wrth iddo rhyng-gipio pas ac edrychodd yn debyg y byddai’n croesi’r linell gais, carlamodd yr asgellwr Williams tuag ato ac fe daclwyd ef gan arbed y cais a phwyntiau agoriadol i’r Gleision.
Gyda’r bêl yn ei meddiant roedd y Gleision yn llwyddo i chwarae rygbi cyflym gan lledu’r bêl yn eang ond roedd ymdrech amddiffynol y Scarlets yn arbennig ac fe welwyd taclo caled a grymus.
Daeth y Scarlets yn ôl yn fuan wedi hynny wrth ennill tir yn hanner y Gleision ac fe welwyd yr awydd hwnnw unwaith eto i rhedeg y bêl at y linell gais. Dangosodd y canolwr byd enwog, Regan King, ei ddawn adnabyddus wrth iddo fwrw twll yn llinell amddiffynol y Gleision a phasio’r bêl at ei bartner yn y canol Gareth Maule. Yn dilyn ymdrech gref gan flaenwyr megis Ken Owens a’r capten David Lyons, daeth y bêl yn ôl at Priestland a groesodd y linell cais i sicrhau pwyntiau agoriadol y Scarlets. Aeth ymlaen i drosi ei gais hefyd.
Munudau’n ddiweddarach ymatebodd y Gleision yn bositif gyda chic i lawr y cae ac fe weithiwyd yn galed i ddal gafael ar y tiriogaeth. Yn dilyn pwysau cynyddol daeth cais i’r chwaraewr rhyngwladol Tom Shanklin a throswyd gan Ben Blair.
Dyna’r sbardun oedd angen ar y Scarlets a daeth cais o’r ail ddechrau wrth i’r blaenasgellwr Josh Turnbull gael meddiant o’r bêl a daeth o hyd i’r asgellwr amryddawn Williams a ddilynodd ei gic ar hyd ayr asgell a chroesi’r tro yma ar gyfer y cais.
Scarlets 12 Gleision 7
Mewn eiliadau llawn tensiwn edrychodd y Scarlets yn beryglus unwaith eto wrth i’r canolwr Maule ddawnsio o amgylch amddiffynwyr y Gleision gan wneud lle i’r asgellwr Andy Fenby i ymestyn ei goesau a ddangos ei gyflymder. Taclwyd ef yn fyr o’r linell i atal y cais.
Dangoswyd cryfder a sgiliau arbennig gan flaenwyr y Scarlets wrth iddynt wthio’r Gleision yn agosach at ei llinell gais. Yn dilyn pwysau cynyddol daeth cais yn y diwedd i’r capten David Lyons wrth iddo gasglu’r bêl o’r sgarmes a defnyddio’i gryfder i wthio’i hun dros y linell.
Sgôr ar yr hanner: Scarlets 17 Gleision 7
Wrth i’r rhanbarthau Cymreig ddod i’r cae ar gyfer yr ail hanner roedd yn amlwg bod y Scarlets yn chwilio am y cais i sicrhau’r pwynt bonws ac roedd y Gleision yn awyddus iawn i godi’r momentwm a lleihau’r pwyntiau rhyngddynt.
Y Gleision a lwyddodd i gael y pwyntiau cynta yn yr ail hanner wrth iddynt osod pwysau cychwynol ar y Scarlets. Er i’r Scarlets ddangos ymdrech arbennig yn amddiffynol unwaith eto, daeth y cais yn y pendraw i’r canolwr Casey Laulala. Troswyd gan y cefnwr Ben Blair i ddod a’r sgor i Scarlets 17 Gleision 14.
Gyda’r Scarlets yn awyddus iawn i sicrhau’r fuddugoliaeth roedd yn rhaid sicrhau pwyntiau. Cosbwyd y Gleision ar linell hanner ffordd ac aeth y Scarlets am y pwyntiau gyda gôl gosb arall i Priestland. Yn anffodus ni lwyddodd y bêl i fynd trwy’r pyst y tro yma.
Fe lwyddodd yr ymgais i sicrhau tiriogaeth gyrfach i’r Scarlets fodd bynnag, wrth iddynt chwarae rygbi ymosodol iawn yn hanner y Gleision. Tristwch oedd i ddilyn wrth i’r canolwr Laulala rhyng-gipio pas ac roedd yn fater o déjà vu wrth iddo rhedeg hyd y cae i sgori cais o dan y pyst. Hawdd oedd y trosiad i Blair o flaen y pyst.
Scarlets 17 Gleision 21
Roedd y ddau gais mewn cyfnod byr wedi tanio rhywbeth yn y Gleision wrth iddynt rhedeg at bob peth. Daeth y trydydd cais mewn deg munud wrth i Taufa’ao Filise ddod o hyd i’r linell, a throswyd gan Blair.
Roedd yn rhaid i’r Scarlets ymateb os oeddynt am fynd ymlaen i’r rownd nesa’ yng Nghwpan LV=wrth iddynt dreilio gyda 11 pwynt. Daeth Martin Roberts ymlaen i’r cae, ar ôl gael ei rhyddhau o garfan Cymru gan Warren Gatland ar gyfer y penwythnos, ynghyd â’r prop Iestyn Thomas a’r blaenasgellwr Johnathan Edwards i rhoi hwb i’r blaenwyr.
Gyda gymaint yn y fantol nid oedd chwaraewyr y Scarlets yn barod i gymryd y peth yn gorwedd lawr ac fe welwyd yr asgellwr Williams yn rhedeg at y linell unwaith eto. Cosbwyd y gleision am gam sefyll a gymrodd Priestland tri phwynt gyda gôl gosb o flaen y pyst.
Daeth cyfle arall i’r Scarlets o’r ail ddechrau wrth i’r bêl ddod o hyd i ddwylo’r asgellwr Fenby a ddawnsiodd o amgylch amddiffynwyr y Gleision. Cosbwyd y Gleision unwaith eto am gam sefyll yn ddwfn yn ei tir eu hunain.
Gyda ychydig dros 10 munud yn weddill ar y cloc lleihawyd y gofod pwyntiau i bump yn dilyn gôl gosb arall gan Priestland.
Scarlets 23 Gleision 28.
Wrth i Regan King adael y cae cafodd gymeradwyaeth arbennig gan y cefnogwyr wrth iddo chwarae ei gêm gynta’ ar Barc y Scarlets ers 11 mis.
Rhoddwyd pwysau ar y Gleision wrth i’r Scarlets symud i mewn i dir y Gleision. Aeth Priestland am gôl gosb arall ond fe fwrodd y bêl y postyn ac fe ddaeth y bêl yn ôl i’r chwarae.
Siomwyd y Scarlets wrth gapten y Gleision Paul Tito groesi am eu pumed cais a sicrhawyd 38 pwynt i’r ymwelwyr wrth i Blair drosi’r cais.
Sgor terfynol: Scarlets 23 Gleision 38
| Rh. | Enw | C | T | GA | Co | |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 15 | Dan Evans |
|
||||
| 14 | Lee Williams |
1T |
|
|||
| 13 | Gareth Maule |
|
||||
| 12 | Regan King |
|
||||
| 11 | Andy Fenby |
|
||||
| 10 | Rhys Priestland |
1T |
1T |
2Co |
|
|
| 9 | Tavis Knoyle |
|
||||
| 1 | Phil John |
|
||||
| 2 | Ken Owens |
|
||||
| 3 | Deacon Manu |
|
||||
| 4 | Lou Reed |
|
||||
| 5 | Damian Welch |
|
||||
| 6 | Rob McCusker |
|
||||
| 7 | Josh Turnbull |
|
||||
| 8 | David Lyons (capt) |
1T |
|
|||
| 16 | Iestyn Thomas |
|
||||
| 17 | Emyr Phillips |
|
||||
| 18 | Rhys Thomas |
|
||||
| 19 | Vernon Cooper |
|
||||
| 20 | Johnathan Edwards |
|
||||
| 21 | Martin Roberts |
|
||||
| 22 | Dan Newton |
|
||||
| 23 | Joe Ajuwa |
|
| Rh. | Enw | C | T | GA | Co | |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 15 | Ben Blair |
5T |
1Co |
|
||
| 14 | Gareth Thomas |
|
||||
| 13 | Casey Laulala |
2T |
|
|||
| 12 | Tom Shanklin |
1T |
|
|||
| 11 | Dafydd James |
|
||||
| 10 | Ceri Sweeney |
|
||||
| 9 | Darren Allinson |
|
||||
| 1 | Taufa'ao Filise |
1T |
|
|||
| 2 | Thomas Rhys Thomas |
|
||||
| 3 | Gary Powell |
|
||||
| 4 | Deiniol Jones |
|
||||
| 5 | Paul Tito (capt) |
1T |
|
|||
| 6 | Maama Molitika |
|
||||
| 7 | Sam Warburton |
|
||||
| 8 | Xavier Rush |
|
||||
| 16 | Rhys James |
|
||||
| 17 | Scott Andrews |
|
||||
| 18 | Ian George |
|
||||
| 19 | Scott Morgan |
|
||||
| 20 | Andries Pretorius |
|
||||
| 21 | Tom Slater |
|
||||
| 22 | Sam Norton-Knight |
|
||||
| 23 | Chris Czekaj |
|
