Mewn gêm a fydd yn gweld y bartneriaeth gyffrous yn y canol, Jonathan Davies a Regan King, a fydd ar y cae gyda'i gilydd am y tro cynta' y tymor yma yn dilyn anaf hir dymor i King.
Mae Nigel Davies wedi estyn dechrau cynta' i Dan newton yn safle'r cefnwr. Mae Dan Newton, 20, wedi dangos talent gyda'i droed mewn gemau diweddar yn yr uwch gynghrair gyda Chlwb Rygbi Llanelli. Mae Daniel Evans yn symud o safle'r cefnwr i'r asgell.
Capten y Scarlets fydd David Lyons ar gyfer yr ornest yn erbyn mawrion Iwerddon. Fe fydd pwyntiau yn hanfodol wrth i'r Scarlets obeithio dringo'r table r mwyn sicrhau ei lle yn Ewrop tymor nesa'.
Dywedodd Nigel Davies, Prif Hyfforddwr y Scarlets: "Mae gan Leinster garfan cryf ac mae ganddynt ddyfnder, er ei bod heb nifer o chwaraewyr rhyngwladol . Dyna beth sydd angen i greu tîm llwyddiannus. Fe fydd yn sialens i ni ond rydym yn edrych 'mlaen i'r gêm.
"Fe allwn fod yn gymharol hapus gyda'n canlyniadau diweddar; ail safle yn ein grwp yng Nghwpan Heineken ac yn rhannu'r brig yn ein grwp yng Nghwpan LV=. Mae angen i ni ganolbwyntio ar ein canlyniadau yng Nghynghrair Magners nawr. Mae'n rhaid i ni droi'r perfformiadau hynny'n ganlyniadau positif.
Wrth drafod y tîm a fydd yn teithio i Ddulyn, dywedodd Davies y gall y cefnogwyr ddisgwyl 'mlaen at bartneriaeth Jon Davies a Regan King.
"Mae hwnnw'n rhywbeth i ddisgwyl 'mlaen ato, fe fydd yn ddiddorol i'w weld.
"Mae Dan Evans yn gyfforddus ar yr asgell, mae ganddo'r sgiliau a'r cyflymder sydd angen arno i fod yn gyfforddus yn y safle. Mae Dan Newton wedi bod yn chwarae'n dda yn y gynghrair ac mae'n haeddu cyfle. Daeth ymlaen yn Connacht yn gynharach yn y tymor ac fe wnaeth wahaniaeth i ni.
"Nid yw wedi derbyn llawer o gyfeloedd ond rwyf yn hyderus iawn y bydd yn gyfforddus ac fe wnaeth waith da i ni.
"Mae'n gêm fawr i Ken Owens hefyd, mae e' wedi chwarae'n dda iawn ac os y bydd yn llwyddo i chwarae gyda'r un cysondeb a sicrhau perfformiad cryf arall fe fydd yn bendant yn gwthio am le yng ngharfan Cymru yn erbyn Ffrainc."
Nid yw Morgan Stoddart yn ymuno â'r garfan oherwydd anaf a fydd yn ei gadw allan am chwech wythnos yn ogystal a Lee Williams sydd wedi torri asgwrn soced ei lygad ac fe fydd oddi ar y cae am bedair wythnos. Scarlets eraill sydd allan oherywdd anafiadau hir dymor yw Simon Easterby, Dafydd Jones (disgwyl iddo ddychwelyd ym mis Mawrth) a'r capten Mark Jones.
Tîm y Scarlets v Leinster; Cynghrair Magners 20fed Chwefror 2010 (CG 1830) yn y Royal Dublin Society.
15 Dan Newton, 14 Daniel Evans, 13 Regan King, 12 Jon Davies 11 Andy Fenby, 10 Rhys Priestland, 9 Martin Roberts, 1 Iestyn Thomas, 2 Ken Owens, 3 Deacon Manu, 4 Dominic Day, 5 Damian Welch, 6 Rob McCusker, 7 Johnathan Edwards 8 David Lyons (capt).
Eilyddion: 16 Phil John, 17 Emyr Phillips, 18 Rhys Thomas, 19 Vernon Cooper, 20 Josh Turnbull , 21 Tavis Knoyle, 22 Gareth Maule.










