21 Chwefror 2010, 8:42 am ::
Gan Antonia Lamont
Leinster 27-14 Scarlets
Mewn gem a gafodd ei ddisgrifio fel un a oedd yn hysbyseb dda iawn i Gynghrair Magners, roedd y Scarlets yn anlwcus iawn i ddod o Faes RDS Dulyn heb bwynt o gwbl.
Dyma'r bedwaredd gêm rhwng y ddau dîm y tymor hwn ac roedd hi'n gêm gyflym agored. Roedd y ddau dîm yn awyddus iawn i ledu'r bel a'i symud ar bob cyfle.
Ar flaen ymosodiadau'r Scarlets oedd y ddau yn y canol, Jonathan Davies a Regan King. Hefyd roedd Rhys Priestland yn rheoli'r chwarae'n arbennig.
Ond Leinster oedd y cyntaf i sgorio. Sexton yn llwyddo gyda'i gic wedi trosedd yn ardal y dacl. 3-0 Leinster.
Doedd dim pall ar frwdfrydedd y Scarlets er cwmpo ar ei hol hi. Dechreuodd Rhys Priestland symudiad ymosodol arall a welodd Andy Fenby yn mynd a'r chwarae i 22 Leinster. Wedi symudiad arall gan King a Davies cafodd Leinster eu cosbi.
Llwyddodd Rhys Priestland gyda'r gic. Roedd 3-3 yn sgôr digon teg a mynd yn ôl patrwm y chwarae'r 15 munud cyntaf.
Roedd Leinster yn cynyddu' r pwyse ond roedd yn gyfle i Jonathan Davies ddangos ei ddoniau amddiffyn drwy rwystro ymosodiad gan Leinster a chael y meddiant yn ôl i'r Scarlets.
Beth ddaeth wedyn oedd symudiad arbennig gan y Scarlets, gyda rygbi rhydd agored o safon. Fe aeth y bel drwy ddwylo Jonathan Davies, Johnathan Edwards, Regan King a David Lyons cyn cael ei basio gan y capten i Ken Owens mas yr asgell. Fe groesodd e'r llinell gais gan orffen symudiad a ddechreuwyd ganddo 70 metr yn bellach nol lawr y cae. Arbennig! 3-8.
Daeth hyder Rhys Priestland i'r amlwg rhai munudau'n ddiweddarach wedi trosedd gan Leinster. Rhoddwyd cig gosb i'r Scarlets yn ei hanner ei hunain. Dangosodd Rhys ei fod am fynd at y pyst. Methodd o drwch blewyn ond roedd yn grêt i'w weld yn mentro am y pyst yn y lle cyntaf.
Daeth cyfnod digon peryglus o chwarae gan Leinster wedyn ac wedi symud y bel trwy'r dwylo at yr asgell, croesodd Isa Nacewa am gais. Roedd yn sgôr bwysig ar adeg pan roedd y Scarlets yn llawn haeddu ei mantais. Trosodd Sexton, 10-8. Llwyddodd gyda chic arall. 13-8.
Wrth i bwysau Leinster gynyddu, gwnaeth Johnathan Davies dacl holl bwysig ar bachwr Leinster, Jackman. Dangosodd aelod newydd o garfan Cymru, Ken Owens bod ganddo dalent arall - ciciodd y bel o'i 22 ei hunain lawr y cae!
Wrth i'r hanner ddod i ben, rhoddwyd cic gosb i'r Scarlets a gwelodd y capten David Lyons gyfle i gau'r gap cyn yr egwyl. Llwyddodd Rhys Priestland. 13-11 ar yr egwyl.
Wrth i'r ail hanner ddechrau, roedd yn amlwg nad oedd y tempo yn mynd i arafu o gwbl. Falle bod tamed bach mwy o'r gêm cicio nôl a mlaen, ond roedd y bel yn dal i symud drwy'r dwylo.
Daeth mantais pwyso'r Scarlets i'r amlwg. Cig gosb arall I Rhys Priestland. 13-14.
Daeth Josh Turbull i'r cae yn lle Jonathan Edwards wedi 48 munud.
Rhai munudau wedyn, cosbwyd y Scarlets am gam sefyll. 16-14 i Leinster a chyn hir roedd yn 19-14.
Daeth y Scarlets y ol eto gyda chyfnod o arall o bwyso, y bel yn symud drwy'r dwylo a'r chwaraewyr yn symud drwy'r cymalau. Roedd Rhys Priestland yn ol i amddiffyn yn gadarn wedi cic traws cae gan Leinster. Cafodd ei gosbi, ond roedd wedi ei ynysu. Sexton yn llwyddo eto. 19-14.
Ar yr awr, eilyddiwyd rheng flaen y Scarlets wrth i Rhys Thomas, Phil John ac Emyr Phillips ddod mlaen yn lle Iestyn Thomas, Ken Owens a Deacon Manu.
Rhoddodd Dan Newton dacl arbennig ar yr asgellwr profiadol ac atal symudiad a oedd yn mynd am gais.
Cynyddodd Sexton mantais Leinster lead i 22-14 gyda chic arall.
Doedd y Scarlets ddim am roi lan. Ond yn anffodus daeth dim o ddau gyfle hwyr i sgori ceisiau, un i McCusker ac un i Fenby. Am y tro cyntaf yn y gêm, fe aeth Leinster wedyn ar y blaen o ddwy sgôr gyda chic arall gan Sexton. Yr ergyd olaf oedd cais gan Sexton munudau cyn y diwedd. 27-14.
Syrpreis mwya gem mor agored mae'n si?r, oedd y ffaith mai dim ond tri chais gafodd ei sgorio.