Trechwyd y Scarlets wythnos diwetha' gan Leinster, ac felly mae angen i'r Scarlets gasglu pwyntiau hanfodol yn y Cynghrair Magners yn y saith gêm sy'n weddill er wmyn gwella'i safon yn y tabl i sicrhau ei lle yn Ewrop tymor nesa'. Mae'r tim cartre' yn ymwybodol fod yn rhaid ennill y gêm yma er mwyn gwella'i safle. Mae Ulster yn y chweched safle, ar ôl sicrhau pump buddugoliaeth.
Fe fydd talent ifanc yn gobeithio dangos eu doniau ar y cae hefyd megis y mewnwr 19 mlwydd oed, Tavis Knoyle, y cefnwr Dan Newton, 20 oed, a'r asgellwr cryf Joe Ajuwa (26, gynt o Gymry Llundain, Richmond), sydd wedi bod yn chwarae gyda Chlwb Rygbi Llanymddyrfi.
Mae Regan King yn dechrau ei drydydd gêm y tymor hwn ar ôl dychwelyd o anaf hir dymor ac fe fydd Jon Davies yn dychwelyd ar ô lei rhyddhau o hyfforddi Cymru.
Rhys Priestland fydd wrth y llyw yn safle'r maswr gyda amrywiaeth o brofiad a thalent ifanc ymysg y blaenwyr gan gynnwys Josh Turnbull yn rhif 6 a Richie Pugh yn ôl fel blaenasgellwr.
Yn dychwelyd hefyd y mae'r bachwr rhyngwladol Matthew Rees a fydd ar y fainc gyda Ken Owens yn dechrau.
Dywedodd Prif Hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies: "I ni'n ymwybodol bod yn rhaid i ni ennill y gêm yma.
"Roedd y canlyniad yn siomedig yn Leinster - nid oherwydd y perfformiad ond ein bod wedi colli gafael ar gêm oeddem yn ei rheoli.
"Mae'n rhaid i ni symud ymlaen, maent yn grwp ifanc o chwaraewyr ac mae'n rhaid i ni ddysgi gwersi o'r gemau yma a gwella er mwyn symud ymlaen.
"Mae yna lot o dalent yn y gêm yma, ame yna unigolion da ac mae yna ddigon o ymdrech ymysg y grwp. Os allwn wneud y mwya' o'r cyfleoedd fe allwn sicrhau'r canlyniadau."
Ychwanegodd Davies bod y gystadleuaeth am lefydd yn holl bwysig i ddatblygiad y garfan ac yn rhywbeth i ni'n awyddus i greu trwy'r garfan i gyd.
"Rydym yn edrych i ddatblygu cystadleuaeth trwy'r garfan ac mae'n mynd i wella. Mae'n wych i ni gael chwaraewyr fel Ken a Matthew sy'n cynnig rhywbeth gwahanol i ni.
"Mae Ken yn gallu cario'r bêl yn dda. Mae ei waith yn y sgrym yn gwella hefyd."
Wrth drafod y gwrthwynebwyr dywedodd Davies: "Mae Ulster wedi bod yn chwarae'n dda, er dechrau'n araf yn y gynghrair maent wedi gwella ac wedi ennill gemau yn ddiweddar.
"Maent wedi bod yn ail adeiladu ers blwyddyn neu ddwy ac mae'r system academi sydd ganddynt yn gosod sylfeini da i'r garfan."
Ni fydd yr asgellwyr Morgan Stoddart (anaf i'w goes - chwech wythnos) a Lee Williams, sydd wedi derbyn anaf i soced ei lygad, yn chwarae. Yn absennol hefyd bydd Rob Higgitt (rhwyg i'r cyhyryn deuben) a'r blaenwr Damian Welch (anaf bach i'w bigwrn). Chwaraewyr eraill sydd yn dioddef o anafiadau yw Simon Easterby, Dafydd Jones a'r capten Mark Jones.
Scarlets i wynebu Ulster; Cynghrair Magners 5ed Mawrth 2010 (CG 1905) ym Mharc y Scarlets
15 Dan Newton, 14 Joe Ajuwa, 13 Regan King, 12 Jonathan Davies 11 Andy Fenby, 10 Rhys Priestland, 9 Tavis Knoyle, 1 Iestyn Thomas, 2 Ken Owens, 3 Deacon Manu, 4 Lou Reed, 5 Dominic Day, 6 Josh Turnbull, 7 Richie Pugh 8 David Lyons (capt).
Eilyddion: 16 Phil John, 17 Matthew Rees, 18 Rob McCusker, 19 Johnathan Edwards, 20 Martin Roberts, 21 Daniel Evans, 22 Gareth Maule










