


Sbardunwyd Ulster i ymateb yn gadarn ac edrychodd yn debyg ei bod wedi sgori cais, ond roedd y bas ymlaen. Roedd y Gwyddelod yn awyddus iawn i ddominyddu’n gynnar iawn ac fe giciwyd y bêl i’r cornel.
Chwaraeodd y ddau dim rygbi agoriadol iawn, gan basio’r bêl yn llydan, a sicrhaodd chwarae difyr iawn ond cynyddu wnaeth y posibilrwydd o gamgymeriadau. Cosbwyd y Scarlets ddwywaith am fwrw’r bêl ymlaen wrth i’r bêl ddod allan yn gyflym.
Aeth Ulster am gôl adlam wrth i’r cloc ddangos pymtheg munud ond aeth y bêl i’r ochr anghywir o’r pyst a rhoi cyfle i’r Scarlets chwarae yn ôl atynt.
Daliwyd pêl uchel gan y cefnwr Dan Newton yn ddwfn yn nhir Ulster, a oedd yn dechrau ei gêm gyntaf y tymor hwn i’r Scarlets, ac fe gliriwyd y bêl dros yr ystlys. Rhedwyd y bêl yn ôl yn gyflym gan Ulster ac enillwyd tir yn ôl yn hanner y Scarlets.
Enillodd y Scarlets sgrym yn nhir Ulster ac fe arweiniwyd ymosodiad gan y blaenwyr a death y bêl yn ôl i’r mewnwr Knoyle, symudodd o amgylch taclwyr Ulster ac fe groesodd y linell i sicrhau pump pwynt i’r Scarlets. Ni lwyddodd Priestland i gicio’r bêl rhwng y pyst. Scarlets 12 Ulster 0.
Daeth y bêl i ddwylo’r clo Dominic Day, sydd newydd ddychwelyd ar ôl derbyn llawdriniaeth i’w bigwrn, yn y linell ac fe ddechreuwyd ymgyrch newydd tuag at y linell gais. Penderfynodd Priestland fynd am y pyst ond methu a wnaeth gyda’i ymgais am gôl adlam. Chwarae craff oedd hyn fodd bynnag oherwydd roedd y dyfarnwr yn chwarae mantais i’r Scarlets ac fe rhoddwyd cyfle arall i Priestland sicrhau tri phwynt gyda gôl gosb, ac yn wir dyna a wnaeth.
Fe weithiodd yr hanneri, Priestland a Knoyle, yn dda gyda’i gilydd a gwelwyd sgiliau da wrth iddynt fynd trwy symudiadau mor gyfforddus a fydden nhw ar y maes hyfforddi.
Cosbwyd Ulster unwaith eto am blymio i mewn yn y ryc. Rhoddwyd cic rhydd i’r Scarlets ac fe anelwyd hi at y cornel; unwiath eto’n dangos yr awydd hwnnw i sicrhau buddugoliaeth a cheisiau.
Llwyddodd Ulster i sicrhau eu pwyntiau agoriadol ym munud ola’r hanner cynta’ wrth i Humphreys gicio gôl gosb.
Sgor ar yr hanner: Scarlets 15 Ulster 3
Ulster a lwyddodd i ennill y pwyntiau cynta’ yn yr ail hanner, er i’r Scarlets ddechrau’n gryf iawn. Aeth y maswr Paddy Wallace trwy dwll yn llinell amddiffynol y Scarlets am gais cynta’r Gwyddelod.
Anfonwyd David Pollock i’r gell gosb am ddeng munud yn dilyn cyfarwyddiadau cyson gan y dyfarnwr.
Daeth y bachwr rhyngwladol Matthew Rees i’r cae am y tro cynta’ ers iddo dderbyn anaf yn ystod cyfres yr Hydref.
Chwaraeodd y Scarlets rygbi cyflym gan ddangos yr hyn y maent yn gallu ei gyflawni. Aeth Dom Day ar garlam gan fwrw trwy amddiffyn Ulster ond fe’i loriwyd o fewn 22 Ulster.
Munudau’n ddiweddarach aeth Knoyle ar garlam gydag ymdrech unigol arbennig yn ddwfn o hanner y Scarlets. Ciciodd y bêl ymlaen ond ni lwyddodd i gyrraedd mewn pryd. Chwaraeodd y Scarlets rygbi ymosodol iawn gan symud yn agosach at linell Ulster.
Daeth y cais yn y pendraw i’r maswr Priestland a rhedodd yn llydan i groesi ger y cornel. Aeth ymlaen i drosi’r cais yn llwyddiannus.
Scarlets 25 Ulster 8
Parhau i ddominyddu wnaeth y Scarlets gan reoli’r chwarae ond nid oeddynt yn ddigon clinigol i orffen y symudiadau a sichrau’r pwyntiau. Ni ddaeth y pedwerydd cais a’r pwynt bonws ond fe sicrhawyd buddugoliaeth angenrheidiol a pherfformiad cryf a phedwar pwynt yn y Cynghrair Magners
Seren y Gêm: Tavis Knoyle
Sgor terfynol: Scarlets 25 Ulster 8
| Rh. | Enw | C | T | GA | Co | |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 15 | Dan Newton |
|
||||
| 14 | Joe Ajuwa |
|
||||
| 13 | Regan King |
|
||||
| 12 | Jonathan Davies |
|
||||
| 11 | Andy Fenby |
1T |
|
|||
| 10 | Rhys Priestland |
1T |
2T |
2Co |
|
|
| 9 | Tavis Knoyle |
1T |
|
|||
| 1 | Iestyn Thomas |
|
||||
| 2 | Ken Owens |
|
||||
| 3 | Deacon Manu |
|
||||
| 4 | Lou Reed |
|
||||
| 5 | Dom Day |
|
||||
| 6 | Josh Turnbull |
|
||||
| 7 | Richie Pugh |
|
||||
| 8 | David Lyons (capt) |
|
||||
| 16 | Phil John |
|
||||
| 17 | Matthew Rees |
|
||||
| 18 | Rob McCusker |
|
||||
| 19 | Johnathan Edwards |
|
||||
| 20 | Martin Roberts |
|
||||
| 21 | Dan Evans |
|
||||
| 22 | Gareth Maule |
|
| Rh. | Enw | C | T | GA | Co | |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 15 | Jamie Smith |
|
||||
| 14 | Timoci Nagusa |
|
||||
| 13 | Darren Cave |
|
||||
| 12 | Paddy Wallace |
1T |
|
|||
| 11 | Andrew Trimble |
|
||||
| 10 | Ian Humphreys |
1Co |
|
|||
| 9 | Isaac Boss |
|
||||
| 1 | Tom Court |
|
||||
| 2 | Nigel Brady |
|
||||
| 3 | Brendon Botha |
|
||||
| 4 | Ed O'Donoghue |
|
||||
| 5 | Ryan Caldwell |
|
||||
| 6 | Dan Tuohy |
|
||||
| 7 | David Pollock |
|
||||
| 8 | Chris Henry (capt) |
|
||||
| 16 | Andy Kyriacou |
|
||||
| 17 | Bryan Young |
|
||||
| 18 | Robbie Diack |
|
||||
| 19 | Willie Faloon |
|
||||
| 20 | Paul Marshall |
|
||||
| 21 | Niall O'Connor |
|
||||
| 22 | Simon Danielli |
|
