


Fe ddaeth Treviso i hanner y Scarlets yn gynnar ac fe gosbwyd y Scarlets unwaith eto, y tro hwn yn ardal y dacl am beidio a rhyddhau. Arweiniodd hyn at gôl gosb i Tonias Botes, a phwyntiau cyntaf Treviso yn y Cynghrair Magners wedi ond naw munud o chwarae.
Edrychodd y Scarlets i ledu'r bêl a chodi'r tempo. Fe ddaeth cais i Priestland wrth i fwlch agor yn y lein. Roedd yna sawl chwaraewr yn barod i dderbyn y bas ond fe aeth Priestland yr holl ffordd trwy amddiffyn gwael Treviso.
Roedd yn gais agoriadol da i setlo'r nerfau yn yr ornest fawr hon.
Daeth gwaith amddiffynol ac ymosodol arbennig gan y Scarlets i ddianc o'u 22. Cosbwyd yr Eidalwyr am ddal ymlaen yn y dacl ac fe arweiniodd at gyfnod o chwarae diflas wrth i'r ddau dim gicio'r bêl yn ôl ac ymlaen gan geisio ennill mantais tu ôl i'r linell amddiffynol.
Gwelwyd wal amddiffynol gadarn y Scarlets ar hyd y cae heb ffordd i Treviso dorri drwodd. Ciciwyd gôl adlam gan y maswr Khristopher Burton i ddod a hwy yn ôl o fewn pwynt.
Unwaith eto fe giciodd Botes tu ôl i linell amddiffynol y Scarlets ond fe ddefnyddiwyd y tro hwn gan yr asgellwr Andy Fenby a basiodd i'r cefnwr Morgan Stoddart, y canolwr Gareth Maule ac yna i'r asgellwr ifanc George North. Daeth cais i'r g?r ifanc ar ei ymddangosiad cyntaf yn y Cynghrair Magners. Roedd y bwriad yn awr yn amlwg gan y Scarlets.
Daeth ail gais i North o sgrym y Scarlets, pasiwyd y bêl i'r canolwr Regan King a basiodd i North; defnyddiodd ei gryfder i groesi'r linell gais. Troswyd gan Priestland.
Sgôr hanner amser: Treviso 9 Scarlets 22
Fe gymrodd Priestland fantais o gic hir Treviso i ddechrau'r ail hanner gan sicrhau tir gyda chic enfawr ar hyd y cae.
Cosbwyd y Scarlets unwaith yn rhagor wrth i'r camddisgyblaeth ddod yn ôl i'r gêm ac fe ddefnyddiodd Botes i'w fantais i ychwanegu tri phwynt i sgôr Treviso.
Ym munudau agoriadol yr ail hanner rhoddwyd y Scarlets o dan bwysau wrth i linell ymosodol Treviso symud yn nes at y linell gais ond yn ffodus fe aeth y bêl dros yr ystlys.
Gyda ond saith munud ar y cloc yn yr ail hanner fe ddaeth cais i Treviso gan ddod a'r sgôr i 17-22.
Munudau'n wedyn fe gododd yr Eidalwyr y tempo gan ddawnsio o amgylch llinell amddiffynol y Scarlets a sgori cais o dan y pyst.
Effeithiwyd y Scarlets gan y pwysau a chosbwyd sgrym yr ymwelwyr gan rhoi gyfle i'r tim cartref gicio i ennill tir.
Gyda ugain munud yn weddill ar y cloc setlodd y Scarlets unwaith eto gan ddechrau ymosod yn ddwfn yn hanner Treviso.
Yn dilyn tacl anferthol gan yr eilydd Jonny Fa'amatuainu cosbwyd Treviso ac fe gipiodd y Scarlets tri phwynt arall o esgid Priestland.
Dilynwyd hwn yn fuan wedyn gan gic hir ar hyd y cae gan Priestland ac fe ddaeth pumed gôl gosb iddo ar ôl 69 munud ac fe aeth y Scarlets ar y blaen o bwynt.
Bu'r deng munud olaf yn emosiynol ac fe cafwyd diweddglo haeddianol i'r gêm hanesyddol ond yr Eidalwyr aeth a hi wrth iddynt sgori cais a dwyn y fuddugoliaeth oddi wrth y Scarlets.
Sgor terfynol: Treviso 34 Scarlets 28.
Fe fydd y Scarlets yn croesawu Connacht i Barc y Scarlets ar gyfer gêm cartref cynta'r tymor ddydd Sadwrn 11eg Medi (cic gyntaf 3pm).
| Rh. | Enw | C | T | GA | Co | |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 15 | Luke McLean |
|
||||
| 14 | Tommaso Benvenuti |
1T |
|
|||
| 13 | Ezio Galon |
1T |
|
|||
| 12 | Alberto Sgarbi |
|
||||
| 11 | Benjamin de Jager |
|
||||
| 10 | Christopher Burton |
1GA |
|
|||
| 9 | Tobie Botes |
1T |
2T |
4Co |
|
|
| 1 | Agusto Allori |
|
||||
| 2 | Leonardo Ghiraldini |
|
||||
| 3 | Pedro di Santo |
|
||||
| 4 | Antonio Pavanello (capt) |
|
||||
| 5 | Corniel van Zyl |
|
||||
| 6 | Robert Barbieri |
|
||||
| 7 | Alessandro Zanni |
|
||||
| 8 | Manoa Vosawai |
|
||||
| 16 | Diego Vidal |
|
||||
| 17 | Lorenzo Cittadini |
|
||||
| 18 | Ignacio Rouyet |
|
||||
| 19 | Enrico Pavanello |
|
||||
| 20 | Paul Derbyshire |
|
||||
| 21 | Fabio Semenzato |
|
||||
| 22 | Simon Picone |
|
||||
| 23 | Brendan Williams |
|
| Rh. | Enw | C | T | GA | Co | |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 15 | Morgan Stoddart |
|
||||
| 14 | George North |
2T |
|
|||
| 13 | Gareth Maule |
|
||||
| 12 | Regan King |
|
||||
| 11 | Andy Fenby |
|
||||
| 10 | Rhys Priestland |
1T |
2T |
3Co |
|
|
| 9 | Martin Roberts |
|
||||
| 1 | Iestyn Thomas |
|
||||
| 2 | Emyr Phillips |
|
||||
| 3 | Deacon Manu |
|
||||
| 4 | Lou Reed |
|
||||
| 5 | Damian Welch |
|
||||
| 6 | Josh Turnbull |
|
||||
| 7 | Johnathan Edwards |
|
||||
| 8 | Rob McCusker (capt) |
|
||||
| 16 | Ken Owens |
|
||||
| 17 | Phil John |
|
||||
| 18 | Peter Edwards |
|
||||
| 19 | Vernon Cooper |
|
||||
| 20 | Jonny Fa'amatuainu |
|
||||
| 21 | Tavis Knoyle |
|
||||
| 22 | Jonathan Davies |
|
||||
| 23 | Dan Evans |
|
