


Daeth y Scarlets yn ôl yn gryf gan weithio'i ffordd i 22 y gwrthwynebwyr a Stephen Jones wedyn yn cicio gôl gosb.
Eiliadau'n ddiweddarach roedd y Scarlets yn ôl yn 22 Brive wedi iddyn nhw ennill y bel o'r ail ddechrau. Methodd Stephen Jones gyda'i gic gosb.
Cafodd Goode ail gyfle i gynyddu pwyntiau ei dim, llwyddodd, gan ddod a'r sgôr i Scarlets 3 Brive 6.
Ar ddiwedd y chwarter cyntaf, tro Stephen Jones oedd hi i drio rhoi pwyntiau ar y bwrdd, wedi cyfnod o chwarae da yn y chwarae rhydd gan y ddau dîm. Ond aeth y bel yr ochr anghywir i un o'r pyst.
Ond fe aeth pedwerydd gol gosb Jones yn syth trwy ganol y pyst gan fynd a Stephen Jones i'r llyfrau record am groesi 2,500 o bwyntiau.
Ond nol ar y blaen a Brive cyn hir, trydedd gic gosb Andy Goode yn newid y sgôr i Scarlets 6 Brive 9.
Roedd gwaith y Scarlets ynghanol y cae yn ardderchog ac fe greodd gyfle i'r canolwr Jon Davies rhedeg at y llinell, cydiodd Deacon Manu yn y bêl, ond dyfarnwyd bod y bêl wedi cael ei fwrw 'mlaen a gwrthodwyd y cais.
Cafodd capten Brive, a'r cyn Scarlet Scarlets, Alix Popham, ei gario oddi ar y cae pum munud cyn hanner amser. Aeth i'r ysbyty i gael triniaeth ar ei benelin dde.
Gadawodd canolwr ifanc addawol y Scarlets, Davies y cae hefyd, gydag anaf i'w clun ac fe gymrodd Rob Higgitt ei le.
Roedd Brive yn edrych yn beryglus ar ddiwedd yr hanner cyntaf, gan frwydro'u ffordd i 22 y Scarlets.
Daeth y Scarlets nôl yn gryf - doedden nhw ddim yn awyddus i gyrraedd hanner amser ar y droed ôl. Ond collwyd cyfle am gais arall wedi i'r bel gael ei fwrw 'mlaen eto.
Bylchodd Sean Lamont yn hyfryd tuag at linell Brive, a Lee Williams yn dynn ar ei sodlau ac yn croesi am gais. Y Scarlets felly gyrhaeddodd hanner amser ar y blaen. Scarlets 11 Brive 9.
Dim ond un newid fuodd i dîm y Scarlets ar gyfer yr ail hanner, Rhys Priestland yn dod i'r cae yn lle'r cefnwr, Daniel Evans (anaf i'w wddf).
Roedd y tîm cartre' ar dan ar ddechrau'r ail hanner, a chafodd eu gwaith caled ei wobrwyo gan gic gosb lwyddiannus Stephen Jones.
Eiliadau'n ddiweddarach, tarodd Brive yn ôl trwy gic gosb gan ei eilydd, Luciano Orquera. Scarlets 14 Brive 12.
Roedd Lou Reed a Ken Owens wedi gwneud gwaith da i ennill y bel yn y sgarmes gan gynnig cyfle arall am gôl gosb i'r Scarlets. O'i hanner ei hunan tarodd Rhys Priestland y bel rhwng y pyst.
Eiliadau wedi dod ar y cae, rhuthrodd Richie Pugh at y llinell gais ond cafodd y cais ei wrthod oherwydd cam sefyll.
| Rh. | Enw | C | T | GA | Co | |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 15 | Dan Evans |
|
||||
| 14 | Mark Jones (capt) |
|
||||
| 13 | Sean Lamont |
|
||||
| 12 | Jonathan Davies |
|
||||
| 11 | Lee Williams |
1T |
|
|||
| 10 | Stephen Jones |
1T |
3Co |
|
||
| 9 | Martin Roberts |
|
||||
| 1 | Iestyn Thomas |
|
||||
| 2 | Matthew Rees |
|
||||
| 3 | Deacon Manu |
|
||||
| 4 | Lou Reed |
|
||||
| 5 | Dom Day |
|
||||
| 6 | Simon Easterby |
|
||||
| 7 | Dafydd Jones |
|
||||
| 8 | David Lyons |
|
||||
| 16 | Ken Owens |
|
||||
| 17 | Phil John |
|
||||
| 18 | Rhys Thomas |
1T |
|
|||
| 19 | Vernon Cooper |
|
||||
| 20 | Richie Pugh |
|
||||
| 21 | Tavis Knoyle |
|
||||
| 22 | Rhys Priestland |
1Co |
|
|||
| 23 | Rob Higgitt |
|
| Rh. | Enw | C | T | GA | Co | |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 15 | Fabrice Estebanez (capt) |
|
||||
| 14 | Horacio Agulla |
|
||||
| 13 | Jamie Noon |
|
||||
| 12 | Lachlan Mackay |
|
||||
| 11 | Vili Waqaseduadua |
|
||||
| 10 | Andy Goode |
3Co |
|
|||
| 9 | Shaun Perry |
|
||||
| 1 | David Khinchaguisvili |
|
||||
| 2 | Jean-Phillipe Bonrepaux |
|
||||
| 3 | Jonathan Garcia |
|
||||
| 4 | Christian Short |
|
||||
| 5 | Arnaud Mela |
|
||||
| 6 | Alix Popham |
|
||||
| 7 | Vincent Forgues |
|
||||
| 8 | Antonie Claassen |
|
||||
| 16 | Steve Thompson |
|
||||
| 17 | Petrisor Toderasc |
|
||||
| 18 | Retief Uys |
|
||||
| 19 | Fabien Domingo |
|
||||
| 20 | Jean-Baptiste Pejoine |
|
||||
| 21 | Luciano Orquera |
1Co |
|
|||
| 22 | Ronnie Cooke |
|
||||
| 23 | Pat Barnard |
|
