Mae Nigel Davies wedi cymeradwyo'r Scarlets ar ol buddugolaeth 24-12 dros Brive ddydd Sadwrn. Dyma'n union beth oedd angen ar y Scarlets cyn teithio i ffwrdd i wynebu Gwyddelod Llundain penwythnos nesaf.
"Roedd yn holl bwysig, roedd yn rhaid i ni ennill y gem hon. Roedd y chwaraewyr i gyd yn ymwybodol o'r ffaith yma - mae'n ychwanegu pwysau iddynt ond mae yn help i ffocysu feddyliau'r chwaraewyr ac i sicrhau ein bod yn chwarae'r gem i ni am chwarae," dywedodd.
"Ar y cyfan roeddwn yn bles iawn gyda'r perfformiad, ni oedd ar y blaen o ran tir am rhannau helaeth o'r gem.
"Roedd y reng ol yn wych ac fe welwyd perfformiad a hanner gan y blaenwyr; roedd yn rhaid iddynt weithio'n galed ac aethant ati i greu gem a thempo uchel.
"Mewn gemau fel hyn yr ydym ni'n gweld ffrwyth ein llafur yn y talent ifanc lleol. Mae'r bois yma'n gwella ym mhob gem ac mae dyfodol disglair o'u blaenau."