Sylfaen rygbi ifanc yw datblygiad trwy ysgolion a chlybiau lleol. SDR (Swyddogion Datblygu Rhanbarthol) sydd yn gyfrifol am fonitro'r cystadleuthau yma a chynghori ysgolion am safon y chwaraewyr. Mae'r chwaraewyr gorau yn chwarae yn adran DC Thomas Dan 11 ar benwythnosau yn nhymor yr ysgol.
Mae SDR yn parhau i fonitro chwaraewyr yn eu hysgolion ac yng ngemau clybiau lleol. Y SDR sydd yn gyfrifol am hyfforddi a rheoli Sefydliad Rhanbarthol timau D16, D15, D14, D13 a D12.
Ar ddiwedd tymor Dan 15, cynhelir cwrs a threialon i ddewis carfan rhanbarthol Dan 16. Fe fydd y garfan yma yn cystadlu mewn twrnament rhyng-rhanbarthol Dan 16 a dewisir y chwaraewyr gorau i gynrychyioli UYRC ac o bosib academi dan 17.
Mae chwaraewyr Dan 17 yn chwarae mewn cystadleuaeth rhyng-rhanbarthol Dan 18 trwy'r Hydref er mwyn cydnabod y gorau i gymryd rhan yn rhaglen academi'r rhanbarthol. Fe fydd y chwaraewyr gorau ar gael i chwarae yng ngharfan Dan 18 Cymru.
Ar ddiwedd tymor Dan 17, cynhelir cwrs a threialon i ddewis carfan rhanbarthol Dan 18. Fe fydd y garfan yma yn cystadlu mewn twrnament rhyng-rhanbarthol trwy'r Hydref a dewisir y chwaraewyr gorau i gynrychioli carfan D18 Cymru a fydd yn chwarae ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ac o bosib academi Dan 19. Fe fydd y tîm rhanbarthol Dan 18 yn chwarae chwech gêm yn yr Hydref.
Fe fydd chwaraewyr gorau Dan 19 yn chwarae mewn cystadleuaeth rhyng-rhanbarthol Dan 20 yn yr Hydref. Fe fydd Tîm Rheoli Cymru D20 yn dewis eu carfan yn ystod mis Tachwedd. Dylai'r chwaraewyr chwarae yn yr uwch gynghrair.
Dan 20 Mlwydd Oed: Dylai chwaraewyr Dan 21 chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru neu'n uwch. Fe fydd chwaraewyr D20 yn chwarae mewn cystadleuaeth rhyng-rhanbarthol. Fe fydd Tîm Rheoli Cymru D20 yn dewis eu carfan yn ystod mis Tachwedd i chwarae yn nhwrnament y Chwe Gwlad a Pencampwriaeth y Byd BRR.
| Gêm Nesaf | |||||||||||
|
|||||||||||
| Gêm Ddiwethaf | ||||
|
||||
| RaboDirect PRO12 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| Tabl Cyflawn | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||