SCARLETS V BENETTON TREVISO

Feb 23rd @ 7:35pm
Rygbi
Croeso i Ganolfan y Wasg ar y we y Scarlets. Dylid anfon ceisiadau achrediad erbyn 1yp Mercher ar gyfer gêm Nos Wener, ac erbyn 1yp Iau ar gyfer gêm Dydd Sadwrn / Sul.

Gall pob aelod o'r wasg gael mynediad i'r stadiwm trwy 'Mynedfa'r Swyddogion', gyferbyn a'r brif fynedfa, sydd wedi ei leoli yn Stand Castell Howell y De. Fe fydd gan y steward restr achrediad ac wrth gael mynediad byddwch yn derbyn eich pass, tocyn diwrnod gêm a rhaglen.

Mae Ystafell y Wasg wedi ei leoli ar y llawr gwaelod tu draw i fynedfa'r swyddogion.

Er mwyn cael mynediad i Ardal y Wasg yn y stand: dewch allan o Ystafell y Wasg, trowch i'r dde ac ewch trwy'r drysau i'r dderbynfa ac i fyny'r grisiau i Lefel 1. Pan fyddwch yn yr ardal ymgynnull dylai newyddiadurwyr fynd i'r chwith a thrwy ddrws S9 i gyrraedd ardal y wasg, dylai darlledwyr fynd i'r dde a thrwy ddrws S4 i ardal y wasg. Cyflwynwch eich pass a thocyn i'r steward ar y drws i gael mynediad i ardal y wasg.

Nerys Jones
Swyddog Cyfathrebu y Scarlets
Ebost: nerys@scarlets.co.uk
Symudol: 00 44 7970 601 597


Canolfan y Wasg - Ffurflen Achrediad:

Wi Fi

Mae defnydd WiFi Bandllydan ar gael yn rhad ac am ddim yn Ystafell y Wasg ac Ardal y Wasg, gyda'r un mynediad ar gyfer y ddau le.
Fe fyddwn yn dosbarthu'r enw defnyddiwr a'r cyfrinair ar y diwrnod.

Achrediad a Mynediad y Cyfryngau

Os ydych yn gyrru
Mae arwyddion clir ar gyfer Parc y Scarlets o'r M4 ac Abertawe.

Os ydych wedi derbyn cadarnhad pass parcio
Wrth agoshau at y stadiwm dilynwch yr arwyddion ar gyfer Maes Parcio B. Fe fydd eich enw gyda'r stiward wrth y giat. Byddwch yn derbyn tocyn a dylid arddangos hwn yn y ffenest.

Os and ydych wedi derbyn cadarnhad pass parcio
Wrth agoshau at y stadiwm dilynwch yr arwyddion ar gyfer Maes Parcio B. Y tâl fydd £3.
Ar ôl parcio
Cerddwch am 350 metr o dan yr A484 (trwy'r danffordd, fe fydd stiwardiaid ar gael i'ch arwain) tuag at y stadiwm. Ewch tuag at Mynedfa'r Chwaraewyr/Swyddogion yn Stand Castell Howell y De.

Os ydych yn cyrraedd mewn tacsi
Bydd angen i chi gael eich gostwng wrth man tacsi Parc y Scarlets yn Heol Maes ar Ddafen. Ar ôl cyrraedd Cerddwch 200 metr tuag at y brif fynedfa yn Stand Castell Howell y De. Ar ôl cyrraedd Mynedfa'r Chwaraewyr/Swyddogion Fe fydd stiward yn bresennol i'ch mewngofnodi i Ystafell y Wasg.

Gêm Nesaf
Rhyfelwyr Glasgow (O)
Iau 9 Chw 12
CG 19:05
Safon Presennol
Scarlets:E Co E E Co
Rhyfelwyr:cyf E Co Co Co
Gêm Ddiwethaf
19-14
RaboDirect PRO12

Tîm
Ch
E
Cy
C
Ptu
1Leinster Rugby13110248
2Gweilch1391339
3Rygbi Munster1380538
4Rhyfelwyr Glasgow1372435
5Scarlets1371534
6Rygbi Ulster1370631
7Gleision Caerdydd1260631
8Treviso Benetton1360728
9Edinburgh Rugby1341822
10Dreigiau Casnewydd Gwent1231817
11Rygbi Connacht13301017
12Aironi Rugby13301014
© 2012 © 2009 Y Scarlets. Data Ystadegol © Sportstat Nodyn Cyfreithiol Dosbarthwyd gan Sotic Pwerir gan RedDot Web Content Management